Yn Llys y Goron Caerdydd clywodd rheithgor heddiw bod dau leiddiad wedi llofruddio bachgen ysgol ar gam ac yna  wedi mynd i wario’u  “harian gwaed”.

Cafodd Aamir Siddiqi, 17, ei drywannu i farwolaeth ar stepen drws ei gartref yn y Rhath, Caerdydd yn Ebrill 2010.

Fe agorodd y drws a darganfod dau ddyn yn gwisgo balaclafas ac fe ymosodd y ddau arno’n syth.

Fe geisiodd ei rieni, Iqbal, 68, a Parvean, 55, ei helpu, ond fe gawson nhw hefyd eu trywannu.

Mae Ben Hope, 38, a Jason Richards, 37, y ddau o Gaerdydd, yn gwadu llofruddio Aamir Siddiqi.

Dywedodd Patrick Harrington QC wrth y rheithgor bod y bachgen wedi ei ladd ar gam ar ôl i bethau fynd o’i le. Mae wedi  cyhuddo Mohammed Ali Ege, 32, o orchymyn bod dyn arall yn cael ei ladd ar ôl iddo fethu a thalu’n nôl blaendal o £50,000 am dŷ.

Clywodd y llys bod Ege bellach wedi ffoi o’r wlad.

Cafodd Hope a Richards eu recriwtio gan Ege i ladd y dyn, ond mae’n debyg eu bod nhw wedi cael y cyfeiriad anghywir am eu bod dan ddylanwad cyffuriau.

Dywedod Mr Harrington bod y ddau, oherwydd eu “blerwch syfrdanol” wedi mynd i’r tŷ anghywir ac wedi llofruddio Aamir wrth iddo ateb y drws.

Y dyn redden nhw i fod i’w ladd oedd Mohammed Tanhai sy’n byw gerllaw mewn tŷ tebyg i un Aamir Siddiqi.

Heddiw, bu’r rheithgor yn gwylio ffilm CCTV o Hope a Richards yn fuan ar ôl iddyn nhw ladd Aamir Siddiqi. Fe’u gwelir yn mynd i siopa gyda’r £1,000 o “arian gwaed” roeddan nhw wedi ei gael.

Mae’r achos yn parhau.