Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddyn yn ei dridegau farw mewn damwain yng ngwaith weldio Thomas Rees a’i Fab ym Mhumsaint ger Llanwrda.

Cafodd yr heddlu a’r gwasanaeth tân eu galw i’r safle am 9.35am bore ma.

Dywed Heddlu Dyfed Powys bod dyn wedi cael ei ladd a bod ei deulu wedi cael gwybod. Mae Golwg360 yn deall fod y dyn newydd ddod yn dad.

Mae’r heddlu a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi dechrau cynnal ymchwiliad i’r ddamwain, ac mae’r crwner wedi ei hysbysu.