Mae mab dyn oedd wedi saethu gwn at ei wraig mewn siop trin gwallt fis diwethaf, wedi ei ddarganfod yn farw mewn coedwig yng Nghasnewydd.
Cafwyd hyd i gorff Jack Williams, 16 oed, wrth ymyl y safle lle roedd ei dad wedi lladd ei hun yn dilyn y digwyddiad yn y siop yng Nghasnewydd ar Awst 19.
Roedd mam Jack, Rachel sy’n 39 oed, newydd adael yr ysbyty ar ôl cael triniaeth i’w hanafiadau. Roedd hi a’i gŵr wedi gwahanu.
Dywedodd aelodau o deulu Jack ei fod wedi ei chael hi’n anodd ymdopi gyda’r hyn oedd wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran y teulu wrth BBC Cymru: “Roedd o’n ddyn ifanc, sensitif. Roedd ei fam wedi cael ei saethu, a’i dad wedi ei ddarganfod yn crogi, i gyd o fewn cwpl o oriau.
“Rwan mae Rachel yn mynd drwy uffern eto. Roedd hi’n ymwybodol bod Jack yn ofidus iawn am yr holl fusnes.”
Daw ei farwolaeth chwe wythnos ar ôl i’w dad Darren, 46, fynd i siop trin gwallt Carol-Ann yn Heol Malpas, lle roedd ei wraig yn gweithio. Fe daniodd gwn at Mrs Williams gan ei hanafu a bu’n rhaid iddi gael llawdriniaeth a barodd 10 awr i achub ei choes.
Cafodd gwraig arall, Connie Evans, 92 oed, a chwsmer arall yn y siop hefyd eu hanafu.
Mae Mrs Williams wedi bod yn cael llawdriniaeth ychwanegol yn Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Roedd Jack yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Casnewydd ac wedi bod yn aros gyda chwaer ei dad tra bod ei fam yn yr ysbyty.
Daeth ei fam yn ôl adre ar y penwythnos ac fe gafodd yr heddlu wybod bod Jack wedi mynd ar goll nos Lun. Jack oedd unig blentyn y cwpl, a chredir bod ei rieni wedi gwahanu wythnosau yn unig cyn y digwyddiad yn y siop.
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau bod corff bachgen 16 oed wedi ei ddarganfod yng Nghasnewydd. Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Brynglas yng Nghasnewydd tua 7.30pm nos Lun a daethpwyd o hyd i’w gorff yno.
Dyw’r heddlu ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus. Fe fydd cwest yn agor ar ôl i archwiliad post mortem gael ei gynnal.