Dylan Iorwerth
“Codi cwestiynau am bethau’n sy’n effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd” gan drafod amrywiaeth o bynciau gwahanol fydd Dylan Iorwerth yn ei raglen radio newydd sy’n dechrau ddydd Llun nesaf.
Mae Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg Newydd yn olynu’r newyddiadurwr profiadol Gwilym Owen a gyflwynodd ei rifyn olaf o Wythnos Gwilym Owen ar BBC Radio Cymru, 25 Gorffennaf eleni.
“Fe fydd y rhaglen yn codi cwestiynau, dyna’r prif beth,” meddai Dylan Iorwerth wrth Golwg360 gan egluro na fydd yn cyfyngu cynnwys y rhaglenni i “wleidyddiaeth a materion cyfoes” yn unig.
“Fe fyddwn ni’n trafod bob math o bynciau, unrhyw beth yr ydan ni’n ei ystyried yn ddiddorol. Datblygiadau yn y byd o ran tueddiadau cymdeithasol a gwyddoniaeth a llawer o bynciau eraill. Ond, y peth pwysig yw bod y pynciau i gyd yn effeithio ar ein bywydau ni.”
Amrywiaeth
Bydd Dylan Iorwerth yn “holi’n galed am bynciau sydd wedi codi yn ystod yr wythnos” a hefyd yn cymryd golwg “fwy tymor hir” ar faterion eraill “fel rhai o’r datblygiadau ym myd gwyddoniaeth,” meddai.
“Rydan ni hefyd yn gobeithio gwneud o leiaf un cyfweliad un ac un,” meddai a’r rheiny’ yn “gyfle i fynd i mewn i dipyn o ddyfnder” a than groen pwnc.
Bydd cyfweliadau eraill yn ymwneud â phrofiadau personol, efallai, neu gwestiynau moesol anodd, meddai cyn dweud bod “holi a stilio” yn bwysig ond y bydd sgyrsiau a chyfweliadau o natur wahanol hefyd.
Dywedodd ei bod yn “fraint” cael cyfle i wneud rhaglen yn hen slot wythnosol Gwilym Owen, newyddiadurwr y mae’n ei “edmygu”.
“Mae’r slot yna ar amser cinio dydd Llun yn un pwysig iawn, iawn. Mae Gwilym wedi sicrhau ei fod o’n un pwysig; yn amlwg mae’n fraint cael y cyfle i wneud rhywbeth ohono. Ond, mi fydd rhaid i’r rhaglen fod yn wahanol. Rhaglen Gwilym Owen oedd cynt – ond nid Gwilym Owen ydw i,” meddai Dylan Iorwerth.
Ann Vaughan fydd yn cynhyrchu rhaglen Dylan Iorwerth a Dyl Mei yn ymchwilio. Bydd y cyhoedd yn gallu cyfrannu i’r rhaglen wythnosol drwy wefan Twitter.
Dywedodd Sian Gwynedd, Golygydd BBC Radio Cymru wrth Golwg360: “Mae yna barch aruthrol i Dylan Iorwerth fel newyddiadurwr yma yng Nghymru ac ryden ni yn falch iawn o gynnig cyfres newydd fel hon i wrandawyr yr orsaf.
“Mae gan Dylan y ddawn i fynd o dan wyneb stori a rhoi ongl newydd, ddifyr ar benawdau’r dydd. Mae hefyd yn ddarlledwr ffraeth a chraff a rydyn ni’n ffyddiog y bydd yn ychwanegiad cyffrous i ddarlledu dechrau’r wythnos ar Radio Cymru.”
Colofnydd newydd i Golwg
Ar ôl rhoi’r gorau i’w raglen radio fe fydd Gwilym Owen ei hun yn ail -ymuno a thîm colofnwyr Golwg bob yn ail wythnos o fis Hydref eleni.
“Er bod cyfnod Gwilym Owen yn ‘holi a stilio, procio a phryfocio’ yn ei raglen wythnosol ar Radio Cymru wedi dod i ben dros yr haf, mae’n amlwg bod ganddo ddigon i ddweud ac i holi am waith sefydliadau diwylliannol a gwleidyddol Cymru a’r bobol sy’n gwneud y penderfyniadau,” meddai Golygydd y cylchgrawn, Siân Sutton.
“Rwy’n edrych ymlaen at ei groesawu i’r tim o leisiau cryf sy’n rhan o’r cylchgrawn newyddion a materion cyfoes.”
Dylan Iorwerth, Dydd Llun, Hydref 3, BBC Radio Cymru, 1.15pm