Mae 40 o swyddogion Scotland Yard wedi cael eu disgyblu yn dilyn ymchwiliad i gamddefnydd cardiau credyd y gorfforaeth, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw.
Mae chwe swyddog wedi eu cael yn euog ers 2008 ar ôl ymchwiliad i 60 o swyddogion ynglyn â’u defnydd o gardiau AmEx yr heddlu.
Roedd 34 o swyddogion eraill yn wynebu achosion o gamweinyddu, yn ôl Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.
Cafodd yr ymchwiliad ei lawnsio yn 2007 ar ol i’r heddlu ddarganfod bod dau o swyddogion gwrth-derfysgaeth wedi bod yn camddefnyddio eu cardiau AmEx.
Cafodd naw eu cyhuddo, a chafwyd chwech yn euog.
Dywedodd Deborah Glass o Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu bod y broses wedi bod yn hir ond yn angenrheidiol i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn y modd iawn, a bod y rhai hynny oedd yn cymryd mantais o’r system yn cael eu cosbi.