Mae Aelod Cynulliad wedi galw ar grŵp Facebook i ddileu llun “hiliol” sydd yn “gwneud hwyl am [ei] ben”.
Delwedd o blismon croenddu yw’r llun a gafodd ei bostio gan ‘Fiery Welsh Memes for Feisty Independent Dreams’ ar nos Fercher (Ionawr 3).
Ynghyd â’r ddelwedd mae yna destun sy’n dweud: “When you realise Neil McEvoy [Aelod Cynulliad] probably wants to declare himself as Twysog”
Bellach mae’r grŵp Facebook wedi ymddiheuro am “ddryswch” y llun, ac yn “gwadu unrhyw ffurf o hiliaeth”.
Ond mae’r llun ar eu tudalen o hyd, ac mae Neil McEvoy yn dweud bod y gynnen yn parhau.
“Dydyn nhw ddim wedi ymddiheuro i mi,” meddai wrth golwg360. “Doedd dim dryswch. Dywedais wrthyn nhw fy mod yn teimlo bod eu llun yn hiliol.
“Mae gennych grŵp o bobol gwyn yn defnyddio lluniau o bobol croenddu – ac iaith pobol groenddu – i ddweud wrth berson sydd ddim yn wyn, nad oes lle iddo ar y top.
“Mae golygyddion y dudalen yn gwrthod dileu’r llun. A dylen nhw ystyried eu hegwyddorion yn fanwl. Dw i ond wedi cael negeseuon cas gan bobol yn gwrthwynebu fy safiad.
“Dyma’r bobol sydd fwyaf awyddus i siarad am hawliau lleiafrifoedd a phobol sy’n cael eu herlid. Ond maen nhw wedi fy nhargedu i – aelod o grŵp lleiafrifol yng Nghymru. Mae hynny’n eironig.”
Mae Neil McEvoy o dras Yemeni, ac yn ategu bod y grŵp wedi “croesi’r llinell”.
Mîms tanllyd
Grŵp sy’n postio lluniau dychanol yw’r ‘Fiery Welsh Memes for Feisty Independent Dreams’, a bellach maen nhw wedi postio ymateb ar eu tudalen Facebook.
“Roeddem yn gwneud hwyl am ben ffigwr yn y Mudiad Annibyniaeth Gymreig,” medden nhw. “Yn sicr, doedden ni ddim yn credu y byddai modd dehongli’r llun yn ymosodiad hiliol.
“Mae hiliaeth, rhagfarn, cenedlaetholdeb ar sail ethnigrwydd, ac unrhyw fath o gasineb yn annerbyniol, ac yn anghywir. A does dim lle iddo mewn unrhyw gymdeithas, gan gynnwys Cymru.”
Mae’r grŵp hefyd yn honni eu bod wedi chwarae rhan “allweddol” yn yr ymgyrch ddileu tudalen Facebook mudiad asgell dde eithafol ‘National Front Wales’.