Mae’r RSPCA yn disgrifio’r hyn y daethon nhw ar ei draws mewn tref yn Sir Fynwy “fel ffilm arswyd”.
Fe gafodd swyddogion yr elusen eu galw i ardal tref Cas-gwent ar Ddiwrnod Cynta’r Flwyddyn, lle’r oedd casgliad o gyrff anifeiliaid gwyllt wedi eu gadael.
Ymysg y meirw yn Hayesgate yn St Pierre roedd hwyaid, gwyddau, aderyn ysglyfaethus a charw mewn dau ddarn – gyda’i ben wedi ei dorri i ffwrdd.
Mae’r RSPCA wedi lansio apêl ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y “llofruddiaethau tybiedig” hyn i gysylltu â nhw ar unwaith.
Fe ddaethpwyd o hyd i’r anifeiliaid “ychydig funudau o’r A48”, ac mae’r RSPCA yn credu ei bod yn “debygol iawn bod y cyrff wedi eu dympio o gerbyd ar ôl cael eu potsio neu eu lladd am sbort”.
Arswydus
“Roedd y safle yn Hayesgate fel ffilm arswyd, gyda chyrff – a rhannau o gyrff – anifeiliaid gwyllt wedi eu gwasgaru ar hyd y llawr,” meddai Sian Burton, Swyddog Lles Anifeiliaid yr RSPCA.
“Mae yn edrych yn debygol iawn bod rhywun wedi bod ar sbri gwaedlyd, ac wedi lladd yr anifeiliaid er mwyn yr hyn sy’n cael ei alw yn sbort neu adloniant…
“Rydym yn apelio yn daer ar y gymuned leol am wybodaeth. Dyma leoliad gwledig, ac rydan ni yn gobeithio bod rhywun wedi gweld rhywbeth, neu yn gallu taflu rhyw oleuni ar yr hyn ddigwyddodd i’r anifeiliaid druan hyn.
“Anogwn unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio ein llinell gyswllt ar 0300 123 8081.”