Mae awdurdodau porthladd Aberdaugleddau yn parhau i ddelio gyda gollyngiad olew i aber yn Sir Benfro.
Fe ddywedodd cwmni olew Valero bore ddoe (Dydd Iau, Ionawr 3), bod “cynnyrch petroliwm” wedi gollwng i ddŵr y porthladd nos Fercher (Ionawr 2).
Mae’r gollyngiad wedi dod o ganlyniad i waith ar bibellau ac mae offer arbennig yn cael ei ddefnyddio i atal yr olew rhag lledaenu.
Mae cynllun gweithredu eisoes wedi cael ei lansio er mwyn delio a’r broblem.
“Dan reolaeth”
Mewn datganiad dywedodd Mike Ryan, Harbwrfeistr ym Mhorthladd Aberdaugleddau bod y gollyngiad olew dan reolaeth ac wedi’i “atal rhag lledaenu.”
“Mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio gydag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, a sefydliadau eraill, i gymryd camau i leihau effaith y gollyngiad olew ar y ddyfrffordd,” meddai Mike Ryan.
Mae’r olew wedi cyrraedd y lan, ac mae disgwyl i hyn barhau dros y dyddiau nesaf.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud y dylai pobol, yn enwedig pobol a chŵn, fod yn wyliadwrus ar yr arfordir a dylid adrodd unrhyw ddigwyddiad yn ymwneud a’r olew drwy ffonio 03000 65 3000.