Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i bump o bobol gael eu hanafu mewn gwrthdrawiad difrifol ger Owrtyn, Wrecsam, neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 1).

Cafodd swyddogion eu galw yn fuan wedi 10.30yh yn dilyn damwain ar yr A528 Ffordd Salop a oedd yn cynnwys un cerbyd, sef Skoda Fabia glas.

Aethpwyd â dwy ferch a thri dyn ifanc yn eu harddegau/hugeiniau cynnar i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Cafodd tri ohonyn nhw eu cludo yn gyntaf i Ysbyty Wrecsam Maelor a dau i Ysbyty’r Dduges yng Nghaer.

Ers hynny, mae un ferch wedi cael ei throsglwyddo i’r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau newid bywyd difrifol, ac mae dyn ifanc wedi’i drosglwyddo i Ysbyty Walton gydag anafiadau difrifol.