Mae’r cyflwynydd radio Jeremy Vine wedi cael ei feirniadu am ei ymateb yn dilyn ei raglen ar BBC Radio 2 oedd yn rhoi llwyfan i bobol oedd yn “casáu’r iaith Gymraeg”.
Dechreuodd y drafodaeth ar ôl i Fanc Lloyds wrthod derbyn siec Gymraeg wedi’i hysgrifennu gan Gyngor Tref Aberteifi.
Ar y rhaglen, holodd Vine wrandawr o Bontypridd a ddywedodd fod siaradwyr Cymraeg “yn meddwl eu bod yn well nag unrhyw un arall.”
Dywedodd y dyn: “Os ewch chi i unrhyw dafarn yng ngorllewin Cymru . . . yng ngogledd Cymru, mae nhw i gyd yna yn siarad Saesneg, ond cyn gynted ag y maen nhw yn dod mewn a chlywed fy acen i – mae nhw yn dechrau newid i’r Gymraeg, fel na allwn ni eu deall nhw.
“Dw i’n ei chasáu, dw i jyst yn casáu’r iaith.”
Fe wnaeth dau o wrandawyr eraill, un o Gaernarfon ac un arall o Gaerdydd, ymateb i roi sialens i’w sylwadau.
Beirniadaeth
Cafodd y rhaglen ei beirniadu gan ddwsinau o bobl oedd yn honni fod y sylwadau gwrth-Gymreig yn “nonsens”.
Dywedodd un, William Jones, ar ei gyfrif Trydar: “Fe gerddais i mewn i dafarn ym Mharis yr wythnos cyn y Nadolig… pwy fasa’n meddwl, Ffrancwyr yn siarad Ffrangeg yn Ffrainc.” Fe ymatebodd Jeremy Vine gan ofyn, “Ydi Ffrainc yn y Deyrnas Gyfunol”.
Mae ei drydariad nawr wedi ei ddileu.
Mae golwg360 wedi gofyn i’r BBC ac i Jeremy Vine am ymateb.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC y bydde’n rhaid siarad gyda Vine ei hun gan mai cyfrif personol yw ei drydaru.