Yn Llandudno mae stryd ddrytaf Cymru, yn ôl arolwg gan Fanc Lloyds.

Mae pris tŷ ar Llys Helyg Drive yn ardal Gogarth, Llandudno yn fwy na £1,121,000 ar gyfartaledd, yn ôl yr ymchwil gafodd ei seilio ar ddata’r Gofrestra Tir.

Roedd yr ail stryd ddrytaf yn Ninbych-y-Pysgod, sef Stryd Sant Julian a’r drydedd ddrytaf yw Llandaff Place, Caerdydd.

Yng Nghymru a Lloegr roedd 76 o strydoedd gyda thai gwerth dros £1m ar gyfartaledd, gyda dim ond un o’r rheiny yng Nghymru.

Mae prisiau tai ar Stryd San Julian yn £897,000 ar gyfartaledd, tra mai £856,000 yw’r ffigwr yn Llandaff Place.

Ilchester Place ynghanol Llundain ydy’r stryd ddrytaf yn Lloegr, gyda phris tŷ yno werth £15.6m ar gyfartaledd.