Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn poeni’n arw am les dynes 59 oed o Aberaeron sydd ar goll.

Fe welwyd Julie Williams am y tro diwethaf yn gadael ei chartref yn y dref tua 6.45yh neithiwr (nis Wener, Rhagfyr 28).

Mae’n cael ei disgrifio fel gwraig 5’3″ o daldra, o bwysau cymhedrol a gyda sbectol a gwallt brown tywyll, byr. Mae’n debyg ei bod yn gwisgo cardigan las, jins ac esgidiau oedd yn rhy fawr iddi.

Roedd hi’n teithio ar droed.