Mae’r seiclwr Geraint Thomas a’r canwr pop Mike Peters ymhlith y Cymry sydd ar restr anrhydeddau’r Frenhines eleni.

Maen nhw’n cael eu eu hanrhydeddu am eu cyfraniad i’w cymunedau, i elusennau, i fyd iechyd, i gerddoriaeth a chwaraeon.

Mae’r awdur Philip Pullman – a dreuliodd ran o’i blentyndod yn Ardudwy –  a chyn-Ysgrifennydd Cymru, John Redwood yn cael eu hurddo’n farchogion.

Mae Geraint Thomas eisoes yn MBE ers  2008 yn dilyn ei lwyddiant yng Ngemau Olympaidd Beijing, ac mae’n derbyn yr anrhydedd ddiweddaraf – yr OBE –  wedi iddo ennill y Tour de France eleni.

Mae canwr y band The Alarm, Mike Peters, o Prestatyn, yn derbyn MBE am ei waith yn codi arian i wella gofal a chefnogi cleifion â chanser.

Mae Reynette Roberts yn cael MBE am ei gwaith gwirfoddol gyda cheiswyr lloches yng Nghaerdydd, a Leon Gardiner Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig BEM am ei gefnogaeth i elusennau Tŷ Hafan a MacMillan.

Mae Shaun Stocker o Wrecsam, milwr a gollodd ei ddwy goes yn Afghanistan, yn cael BEM am ei waith elusennol.

Ymhlith y lleill y mae Janice Ball yn cael BEM am ei gwasanaeth i gerddoriaeth – fel sylfaenydd côr Forget Me Not. Ac mae Tomos Hughes o Gerrigydrudion hefyd yn cael ei anrhydeddu am ymgyrchu i gael diffibrilwyr yn Nyffryn Clwyd.

Mae Jeffrey Howard o Bontprennau yn derbyn BEM am ei wasanaeth i gerddoriaeth.

Mae Joe Rowlands, bachgen 13 oed a achubodd ei dad Paul wedi iddyn nhw fynd i drafferthion mewn caiac ger Ynys Dylais, Môn, yn derbyn cymeradwyaeth o ddewrder y Frenhines.

Mae dau o wirfoddolwyr Cymreig yr RNLI – Graham Drinkwater o Gaergybi a Robert Harris o Bort Talbot – yn derbyn MBE.

Cydnabyddir Barry Liles, Pencampwyr Sgiliau Cymru a Phro Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda’r MBE am ei wasanaethau i sgiliau a phobol ifanc yng Nghymru.

Mae’r deifwyr John Volanthen a Richard Stanton, sy’n rhan o dîm achub ogofau de a chanolbarth Cymru, yn derbyn medalau George.

Roedden nhw’n rhan o’r tîm aeth i Wlad Thai ym mis Gorffennaf i achub dwsin o fechgyn a’u hyfforddwr a fu’n sownd mewn ogof am dair wythnos.