Mae partner mewn cwmni cyfriethwyr, ac arbenigwr ar Brexit, wedi’i ganfod yn farw ar draeth yn ne Cymru.
Roedd Geraint Thomas, 47, yn gweithio i gwmni rhyngwladol Eversheds Sutherland, yn cynghori busnesau cyn bod gwledydd Prydain yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ddiwedd Mawrth y flwyddyn nesaf.
Mae cwest i’w farwolaeth wedi’i agor, ac wedi’i ohirio, yr wythnos hon yn Pontypridd. Fe ddaethpwyd hyd i gorff y cyfreithiwr yn Southerndown, Bro Morgannwg, ar Ragfyr 18.
Dyw’r heddlu ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.
Mae Heddlu De Cymru yn cadarnhau mewn datganiad eu bod yn ymchwilio i farwolaeth dyn 47 oed o Gaerdydd a gafodd ei ganfod yn farw ar y traeth yn ystod oriau mân Rhagfyr 18.
Mae Lee Ranson, prif weithredwr Eversheds Sutherland International, wedi disgrifio Geraint Thomas fel “cyfreithiwr neilltuol a galluog”.
“Fe ymunodd â’r cwmni yn 1994, ac fe dreuliodd ei holl yrfa gyda’r cwmni,” meddai.
“Fe fydd yn cael ei gofio am ei ymroddiad i’w gleientiaid ac i’r cwmni.”