Mae dynea 37 oed wedi’i harestio ar amheuaeth o lofruddio dau o blant yn ne-ddwyrain Lloegr.

Mae heddlu’n dweud fod y plant “ifanc” wedi’u canfod mewn fflat yn nhref glan môr Margate, Kent, yn ystod oriau mân dydd Iau (Rhagfyr 27).

Lai nag awr cyn iddyn nhw gael eu canfod a’u cludo i’r ysbyty, fe fu’r ddynes mewn damwain ffordd, ac fe gafodd hithau ei chludo i ysbyty.

Fe gafodd yr beddlu eu galw i’r fflat yn dilun adroddiadau fod pobol yn pryderu am ddiogelwch y plant.

Mae’r ddynes wedi’i hanfon adref o’r ysbyty, ond mae hi bellach yn cael ei chadw yn y ddalfa gan Heddlu Kent.