Mae heddlu’n apelio yn dilyn “ymosodiad rhyw difrifol” yn Sir Benfro fore heddiw (dydd Iau, Rjahfyr 27).

Fe gafodd plismyn eu galw yn dilyn y digwyddiad ym mhentref Begeli yn ystod oriau mân y bore.

Yn ôl y disgrifiad y mae Heddlu Dyfed-Powys wedi’i rannu, maen nhw’n chwilio am ddyn gwyn, tenau yn ei 20au. Mae ganddo wallt sy’n hir ar dop ei ben, ond sydd wedi’i siafio ar yr ochrau.

Ar adeg yr ymosodiad honedig, roedd yn gwisgo côt ddu debyg i un o wneuthuriad Superdry.

Yn ôl llefatydd ar ran y llu, maen nhw’n trin y digwyddiad yn New Road fel un “difrifol tu hwnt”.

Mae plismyn wedi bod yn mynd o gwmpas y pentref yn gwneud ymholiadau.