Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi cynnal cyfres o brotestiadau ar wahanol safleoedd y BBC ledled Prydain gan gynnwys Bangor.
Mae’r mudiad Extinction Rebellion yn pwyso ar y BBC i osod yr argyfwng newid hinsawdd yn brif flaenoriaeth olygyddol a chorfforaethol iddo, tynnu buddsodiadau’n ôl o gorfforaethau tanwydd ffosil a dod yn sero carbon erbyn 2025.
“Rydym yn wynebu bygythiad posibl i’n bodolaeth fel cenedl a’n rhywogaeth, ond nid yw sylw’r BBC yn agos at adlewyrchu hyn,” meddai Serena Schellenberg o Extinction Rebellion.
“Rydym yn sicr fod llawer sy’n gweithio o fewn y BBC yn cytuno â ni ar hyn, a bod llawer mwy yn barod i wrando.
“Rydym yn dod fel ffrindiau sy’n ceisio perswadio’r sefydliad hwn i newid ei bolisi a chwarae rhan hanfodol wrth wynebu’r amgylchedd ecolegol.”
Ymysg safleoedd eraill y BBC a gafodd eu targedu heddiw roedd Broadcasting House yn Llundain, a Bryste, Glasgow, Manceinion, Sheffield a Birmingham. Mae’r grŵp wedi cynnal cyfres o brotestiadau dros yr wythnosau diwethaf.
Dywedodd llefaraydd ar ran y BBC fod gan y gorfforiaeth record falch o arwain y ffordd mewn cynaliadwyedd yn y diwydiant cyfryngau. “Gall pobl hefyd weld yr effaith clir mae rhaglenni fel Blue Planet II a Dynasties wedi ei gael ar y drafodaeth gyhoeddus ar effaith y ddynolryw ar y blaned,” meddai.