Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi anfon neges at holl aelodau ei phlaid yn eu hannog i ddal i gredu yn nyfodol Cymru yn Ewrop.
Dywed Liz Saville Roberts fod y rhagolygon o rwystro Brexit yn fwy gobeithiol heddiw nag y bu ar unrhyw adeg arall yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Er bod y Ceidwadwyr a Llafur fel ei gilydd yn chwarae gemau yn lle cynnig atebion, dyw popeth ddim ar ben,” meddai.
“Yn hytrach na’n gwahanu, mae’r cwestiwn Ewropeaidd wedi troi i fod yn rym nerthol a’r ymgyrch dros Bleidlais y Bobl yn gryfach nag erioed.
“Mae’n hawdd iawn mynd ar goll yn nyfroedd dyfnion a thywyll Brexit. Ond dw i’n gofyn i chi, dros gyfnod yr ŵyl, i estyn allan at y goleuni. Dros ddyfodol ein plant.
“Gadewch i ni i gyd siarad ag un llais pan ddywedwn ‘Ewropead ydw i’. “Gadewch i ni sefyll yn unedig yn yr ymgyrch dros Bleidlais y Bobl. Gadewch i ni frwydro dros yr hyn rydym yn gwir gredu ynddo – oherwydd dwi’n sicr ei fod o fewn ein cyrraedd os awn ati o ddifrif.”