Mae’r Llys Apêl wedi dyfarnu bod dyn o Bowys a ddioddefodd saith mlynedd o garchar am ymosodiad rhywiol honedig yn ddi-euog o’r drosedd.
Cafodd y cyn-ofalwr ei garcharu ym mis Gorffennaf 2008 ar ôl cael ei ganfod yn euog o ymosodiad rhywiol ar glaf oedrannus yn ei ofal a oedd yn dioddef o anabledd meddwl.
Roedd Gareth William Jones yn 22 oed pan gafodd ei ddyfarnu’n euog o gyflawni’r drosedd yn erbyn dynes yn ei 70au pan oedd yn gweithio yng nghartref nyrsio The Mountains ger Aberhonddu ym mis Chwefror 2007.
Mae’r ddedfryd wedi cael ei dileu gan y Llys Apêl heddiw, gyda thri barnwr yn dyfarnu na ellir ei hystyried fel un ddiogel.
Dywedodd yr Arglwydd Ustus Simon nad oedd Gareth William Jones wedi cael prawf teg oherwydd na roddwyd digon o sylw i’w anawsterau dysgu ar y pryd.
Nid oedd dim tystiolaeth DNA na theledu cylch cyfyng, a dywedodd y Barnwr y gallai anawsterau Gareth William Jones wrth ateb cwestiynau yn yr achos fod wedi camarwain y rheithgor.
Tystiolaeth newydd
Staff a myfyrwyr Ysgol y Gyfraith Caerdydd a oedd wedi mynd â’i achos i’r Llys Apêl fel rhan o brosiect i helpu pobl sydd wedi cael eu dedfrydu ar gam.
Fe wnaethon nhw gyflwyno tystiolaeth newydd am natur ei anawsterau dysgu.
Ers iddo gael ei ddedfrydu, mae wedi cael diagnosis o glefyd Von Recklinghausen, a chafodd ei asesu fel “oedolyn bregus a hygoelus, gydag anawsterau difrifol i ddeall, prosesu, cofio neu resymu gwybodaeth gymhleth.”
Dywedodd yr Arglwydd Ustus Simon y byddai’r barnwr yn ei achos, pe bai’n cael ei gynnal heddiw, wedi cyfarwyddo’r rheithgor i roi ystyriaeth i’w anawsterau dysgu.
Dywedodd hefyd fod lle i gredu nad oedd Gareth William Jones yn llawn ddeall natur y cyhuddiad yn ei erbyn.
Nid yw Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gofyn am ail brawf, a bydd enw Gareth William Jones yn cael ei ddileu oddi ar y cofrestr troseddwyr rhywiol.