Penodwyd Siwan Davies yn Gyfarwyddwr Busnes newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Cyfarwyddwr yn gyfrifol am y gwasanaethau sydd eu hangen ar Aelodau’r Cynulliad i gyflawni eu gwaith yn y Cyfarfod Llawn a’r pwyllgorau. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn cynnwys y timau clercio ar gyfer pwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn, y gwasanaeth ymchwil a’r gwasanaethau cyfreithiol.

Mae Siwan Davies wedi gweithio yn Senedd Awstralia ac yn Senedd Queensland.

“Mae’r cyfle i ymuno â’r tîm arweinyddiaeth i gefnogi Senedd ifanc ac uchelgeisiol sy’n cychwyn ar y cam nesaf yn ei datblygiad yn un sy’n apelio’n fawr,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at arwain tîm deinamig ac ymroddedig i ddarparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf i’r Cynulliad, yn awr ac yn y dyfodol.”

Bydd yn dechrau ar ei swydd ym mis Ionawr.