Mae dros fil o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw am flwch ar gyfer disgrifio eu hunain fel ‘Cernywiaid’ yn y Cyfrifiad nesaf yn 2021.
Yng nghyfrifiad 2011, roedd modd i bobol Gymreig, Albanaidd a Seisnig yn medru nodi eu hunaniaeth ar y ffurflen.
Ond doedd yr un peth ddim am wir am bobol Cernyw, a bellach mae ymdrech ar droed i newid hynny ar gyfer y cyfrifiad nesaf.
Mae’r ddeiseb wedi denu 1,091 o lofnodion o fewn pum diwrnod, a nod ei sefydlydd – grŵp ‘Credwn mewn Cernyw rydd’ – yw cyrraedd 1,500 llofnod.
“Hiliaeth”
“Mae yna ddigon o amser i’ch llais gael ei glywed, ac i chi sefyll i fyny tros bobol Cernyw,” meddai’r ddeiseb.
“Ddylwn ni beidio â goddef yr hiliaeth yma, a ddylai hyn ddim fod yn digwydd. Gwnewch yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed da chi. Arwyddwch y ddeiseb.”
Cafodd Cernywiaid eu cydnabod yn ‘leiafrif cenedlaethol’ gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2014.