Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn damwain “ddifrifol” arffordd yr A499 yr ochr draw i dref Pwllheli.

Mae dau o bobol wedi’u cludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Penrhos, rhwng Pwllheli a Llanbedrog fore heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 20).

Mae’r llu wedi cadarnhau iddyn nhw dderbyn galwad tua 9.00yb wedi i gerbydau Audi A3 a Mini Cooper daro’n erbyn ei gilydd.

Mae’r ffordd wedi bod ar gau am oriau, a gyrwyr yn cael eu cynghori i ddefnyddio ffyrdd eraill.