Mae gwasanaethau achub yn Sbaen wedi cadarnhau fod cyrff 11 o ffoaduriaid wedi’u canfon mewn cwch oddi ar arfordir de’r wlad.

Mae 30 o bobol eraill wedi cael eu hachub o’r môr.

Roedd pob un o’r ffoaduriaid yn dod o Affrica, i’r de o aniawlch y Sahara.

Roedd cychod achub wedi treulio deuddydd yn chwilio am y cwch tua 11 milltir i’r de o ddinas Almeria. Fe ddaeth llong y llynges o hyd i’r bad i’r dwyrain o Gibraltar yn ystod oriau mân heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 20).

Bryd hynny, roedd 29 o ddynion a phedair dynes yn dal yn fyw ar fwrdd y cwch, ond bu farw un dyn yn yr ysbyty yn Almeria yn ddiweddarach.