Mae llywodraeth y Swistir wedi dod i gytundeb gyda Phrydain ynglyn â hawliau dinasyddion ei gilydd i allu mynd a dod wedi Mawrth 29 y flwyddyn nesaf.
Dydi’r Swistir ddim yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, ond mae wedi’i hamgylchynu gan aelodau. Oherwydd hynny, mae ganddi gyfres o gytundebau gwahanol gyda phob un o’i chymdogion.
Mae’r Swistir yn rhan o barth di-basbort Schengen, ac mae’n caniataru i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd i fyw a gweithio yn y wlad.
Mae Cyngor Ffederal y Swistir wedi cadarnhau bod y fargen sydd wedi’i tharo â Llundain yn sicrhau hawliau y dinasyddion hynny sy’n byw yng ngwledydd Prydain ar hyn o bryd, ynghyd â Phrydeinwyr sy’n byw yn y Swistir.
Mae hefyd yn cydnabod cymwysterau proffesiynol y dinasyddion hynny.