Mae Porthladd Dulyn yn creu cannoedd o lefydd parcio newydd ar gyfer loriau er mwyn paratoadau ar gyfer Brexit, yn ôl Llywodraeth Iwerddon.
Bydd dwsinau o feysydd archwilio newydd yn cael eu creu yn y porthladd allweddol, wrth i Lywodraeth y wlad gyhoeddi eu bod nhw’n paratoi o ddifrif ar gyfer Brexit ‘dim cytundeb’.
Porthladd Caergybi ym Môn yw un o’r prif borthladdoedd ar gyfer croesi rhwng Iwerddon a gwledydd Prydain, ond mae yna bryderon ynghylch sut bydd pethau’n gorfod newid yno hefyd pe bai Brexit caled yn digwydd.
Mae disgwyl y bydd 33 o fannau archwilio yn cael eu creu ar gyfer lorïau sy’n dod i Iwerddon trwy borthladd Dulyn, a bydd swyddfeydd newydd ar gyfer 144 o staff ychwanegol yn cael eu creu hefyd.
Bydd 270 o lefydd parcio ar gyfer y lorïau wedyn yn osgoi unrhyw oedi o ran y traffig.
“I Iwerddon, mae gan Brexit ‘dim cytundeb’ effeithiau economaidd, masnachol a sectoraidd.
“Bydd ymdopi ag ystod eang o effeithiau yn y tymor byr a’r tymor hir yn cynnwys dewisiadau anodd ac allweddol o natur ymarferol, strategol a gwleidyddol.”