Mae Cyngor Gwynedd wedi “colli’r hawl i arwain” yn dilyn llu o benderfyniadau diweddar, yn ôl cyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymeaeg.
Mewn llythyr yng nghylchgrawn Golwg, mae’r awdures Angharad Tomos yn beirniadu safiad y Cyngor tros lu o faterion – popeth o ysgolion gwledig i ganolfannau ieuenctid.
Ac mae’n tynnu sylw yn benodol at benderfyniad diweddaraf Cyngor Gwynedd i ymgynghori ar gwtogi cyllid canolfannau iaith gan ddegau o filoedd o bunnoedd.
“Bu cyfnod pan oedd Cyngor Gwynedd yn esiampl wiw i awdurdodau eraill sut i sicrhau dyfodol i’r Gymraeg fel iaith fyw,” meddai Angharad Tomos yn ei llythyr.
“Bellach, flwyddyn wedi i’r Cyngor basio i godi 8,000 o dai, fe’i gwelwn yn cefnogi Wylfa B, yn cau canolfannau ieuenctid a llyfrgelloedd, yn rhoi’r farwol i ysgolion gwledig a’r cam diweddaraf yw cwtogi’r gwariant ar ganolfannau iaith fu mor allweddol i Gymreigio newydd ddyfodiaid.
“Mae’n rysait gwych i gladdu’r Gymraeg ac mae Gwynedd wedi colli’r hawl i arwain.”
Y canolfannau iaith
Mae Cyngor Gwynedd wedi cynnig cwtogi £96,000 o gyllideb canolfannau iaith y sir – cwtogiad fyddai yn dod i rym o fis Medi 2019 ymlaen.
Pwrpas y canolfannau yma yw cyflwyno plant mewnfudwyr – o gefndiroedd di-Gymraeg – i’r Gymraeg a’u paratoi ar gyfer addysg uwchradd/cynradd yn yr iaith yn ysgolion y sir.
Yn ymarferol, byddai’r cwtogi yn golygu tynnu’r gwaith o drochi plant yn y Gymraeg oddi ar athrawon profiadol, a’i roi yn nwylo cymhorthyddion addysg sy’n rhatach i’w cyflogi.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni y gallai’r cam “beryglu iaith ysgolion a chymunedau Gwynedd” tra bod Dyfodol i’r iaith wedi’i alw’n “ffwlbri noeth”.
Yn siarad gyda golwg360 mae Cynghorydd ar Gyngor Tref Porthmadog, Simon Brooks, wedi galw ar Gabinet y Cyngor Sir i gynnal “dadl gref iawn, iawn, iawn” tros y mater.
Angharad Tomos
Roedd Angharad Tomos yn Gadeirydd ar fudiad iaith Cymdeithas yr Iaith rhwng 1982 ac 1984, ac mae hi’n adnabyddus am ei gwaith ymgyrchu.
Mae llawer yn ei adnabod hefyd am ei gwaith yn awdures, gyda chyfres llyfrau plant Rwdlan ymhlith ei gwaith amlycaf.
Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Gwynedd am ymateb.