Mae arbenigwr ar yr economi yn amau doethineb creu’r corff Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod teyrnasiad Carwyn Jones lawr yn y Bae.

Roedd y Llafurwr yn rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog Cymru’r wythnos hon, wedi naw mlynedd wrth y llyw.

Ac wrth gloriannu ei gyfraniad i gefn gwlad Cymru, mae’r Athro Economeg Peter Midmore o Brifysgol Aberystwyth yn taflu dŵr oer am ben y penderfyniad i uno’r cyrff cyhoeddus Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth Amgylcheddol Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru ar Ebrill y cyntaf, 2013.

Mewn ysgrif o’r enw ‘Rhagweld “argyfwng” yng nghefn gwlad’ yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon, fe ddywedodd Peter Midmore:

‘Yn ystod cyfnod Carwyn Jones fe gafodd y tri phrif gorff cyhoeddus a oedd yn ymwneud fwyaf â materion gwledig, eu huno i greu’r arch-gwango Cyfoeth Naturiol Cymru.

‘O fewn cof, does dim un ymdrech i uno cyrff cyhoeddus wedi llwyddo i wneud yr arbedion oedd i’w disgwyl.

‘Mewn gwirionedd, mae’r uno wedi golygu costau uwch a pherfformiad gwaeth.

‘Ac mae’n edrych yn debyg mai dyna fydd tynged Cyfoeth Naturiol Cymru.’

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Dros y pum mlynedd diwethaf mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dod â gwaith a chyfrifioldebau tri sefydliad at ei gilydd mewn un corff er mwyn rheoli ein hadnoddau naturiol a’n hamgylchedd mewn modd mwy effeithiol.

“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ar y trywydd iawn i arbed £171 miliwn i Gymru, sydd yn well na’r targed o £158 miliwn dros 10 mlynedd, ac mewn cyfnod lle mae’r pwysau ar gyllid cyhoeddus wedi cynyddu’n sylweddol.”

Cwyno am y cwango newydd

Yn gyfrifol am faterion cadwraeth a’r amgylchedd ar ran Llywodraeth Cymru, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru 1,900 o weithwyr ac mae yn cael £180m o arian cyhoeddus y flwyddyn i wneud ei waith.

Ers cael ei ffurfio, mae’r corff wedi ennyn tipyn o feirniadaeth yn dilyn cyfres o sgandalau – gan gynnwys sgandal trwyddedau saethu – ac mae cwestiynu wedi’u codi ynglŷn â’u heffeithiolrwydd.

Ymddiswyddodd Cadeirydd blaenorol y sefydliad, Diane McCrea, yn dilyn sgandal gwerthiant coed, a arweiniodd at gostau i’r trethdalwr.

Ac yn ddiweddar roedd yr adarwr amlwg Iolo Williams yn benwan gyda’r dewis o gadeirydd dros dro:

Ac yn ôl y BBC yr wythnos hon, mae staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn llwyr yn erbyn ailstrwythuro’r corff.

Yn ymateb i ymgynghoriad ymysg y gweithwyr, dywedodd Andrew RT Davies, Gweinidog Amgylcheddol yr wrthblaid:

“Pan mae staff sy’n gweithio ar y rheng flaen yn y cwango mwyaf yng Nghymru yn creu darlun mor ofnadwy, gyda morâl “ar ei isaf erioed” ac un arall yn dweud bod y sefyllfa yn “erydu’r enaid”, mae hi’n amser i Lywodraeth Lafur Cymru gyfaddef bod yr uno wedi methu.

“Ers ei ffurfio, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei blagio gan sgandal, blerwch a morâl isel, ac mae yn amlwg bod y staff wedi colli ffydd yn y sefydliad.”