Mae Prifysgol Aberystwyth yn bwriadu gwario tua £26.2m ar adnewyddu adeilad yr Hen Goleg.
Mae llety pedair seren, unedau busnes a chyfleusterau ar gyfer priodasau ymhlith y cynlluniau ar gyfer yr adeilad hanesyddol.
Yn ôl y Coleg ger y Lli, bydd y prosiect yn dod â “bywyd newydd” i’r Hen Goleg, gan ”ddarparu cyfleusterau diwylliannol, dysgu a menter newydd at ddefnydd y Brifysgol, y gymuned leol a’r rhanbarth yn ehangach”.
Y nod yw ailagor yr adeilad ar ei newydd wedd yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23, pan fydd y brifysgol yn dathlu 150 mlynedd ers ei sefydlu.
“Sbarduno adfywiad economaidd”
Mae disgwyl i’r prosiect greu 40 o swyddi newydd, a denu 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn, meddai Prifysgol Aberystwyth ymhellach.
Mae cynlluniau yr Hen Goleg yn cynnwys:
- Amgueddfa sy’n adrodd hanes y Brifysgol;
- Gofod ar gyfer celf ac arddangosfeydd;
- Canolfan wyddoniaeth a darganfod;
- Cyfleusterau cynadledda a thrafod;
- Gofod astudio 24 awr ar gyfer myfyrwyr.
Mae yna fwriad hefyd i ddefnyddio ystafell yr Hen Lyfrgell ar gyfer digwyddiadau fel priodasau, tra bydd lloriau uchaf yr adeilad wedyn yn cynnig llety pedair seren sydd â 33 ystafell.
Mae elfennau eraill o’r ailddatblygiad yn cynnwys 12 uned busnes, stiwdio ar gyfer artistiaid, cyfleusterau cymunedol, caffi-bistro a bar.
Bywyd newydd
“Mae’r Hen Goleg yn un o adeiladau mwyaf adnabyddus Cymru ac yn fan geni Prifysgol Cymru, ond mae angen inni ail-gyflunio ei bwrpas ar gyfer cenhedlaeth newydd,” meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
“Bydd ein cynlluniau ailddatblygu a chodi arian yn arwain at greu cyfleusterau a chyfleoedd newydd i’r Brifysgol ac i fyfyrwyr yn ogystal â bo yn brosiect adfywio o bwys i’r gymuned leol, a fydd yn denu ymwelwyr o bell ac agos.
“Trwy roi bywyd newydd i’r Hen Goleg, byddwn hefyd yn diogelu rhan greiddiol o’n treftadaeth ac yn sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i’r adeilad rhestredig Gradd I hwn.”