Mae Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G Hughes wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu ymddeol yn gynt na’r disgwyl, a hynny cyn diwedd y flwyddyn.

Mae wedi dod i’r penderfyniad hwn yn sgil “nifer yr heriau” sy’n wynebu’r Brifysgol ar hyn o bryd, a’r angen am dîm newydd i allu delio â “newidiadau” yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

Fe gyhoeddodd yr Athro John G Hughes bythefnos yn ôl ei fod yn bwriadu ymddeol ar ôl naw mlynedd wrth y llyw.

Dywedodd bryd hynny y byddai’n aros tan fis Awst 2019 cyn camu o’r neilltu, ond mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn golygu na fydd yn aros yn ei swydd ymhellach na diwedd y mis hwn.

Bydd yr Athro Graham Upton yn cael ei benodi’n Is-Ganghellor Gweithredol tan fydd olynydd yn cael ei benodi.

“O ystyried nifer yr heriau sy’n wynebu’r Brifysgol ar hyn o bryd, a’r ffaith fod nifer ohonynt yn effeithio ar strategaeth, cyfeiriad a llwyddiant hirdymor y Brifysgol, daethom i’r casgliad y byddai’n fanteisiol i’r materion hynny gael eu delio a hwy gan dim fydd yn gallu ymdrin â’r newidiadau nid yn unig yn ystod y misoedd i ddod, ond yn hanfodol, hefyd i’r flwyddyn academaidd nesaf,” meddai Cadeirydd y Cyngor, Marian Wyn Jones.