Mae dynes 94 oed wedi marw ar ôl cael ei tharo gan fan yr heddlu yng Nghaerdydd.

Fe ddigwyddodd ar Heol Merthyr yn yr Eglwys Newydd am 5.20 ddoe (dydd Sadwrn), a chafodd y ddynes ei chludo i’r ysbyty, lle bu farw.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n cynnal ymchwiliad, ar ôl i Heddlu’r De gyfeirio’r achos atyn nhw.