Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth a thystion yn dilyn tân ym Mharc Lighthouse, Wentlodge, Casnewydd ddydd Sadwrn, 24 Medi.

Roedd carafán statig a sied wedi cael eu rhoi ar dân tua 7.25pm.

Mae’r heddlu’n  credu fod y tân wedi dechrau rhwng 6.50pm a 9pm a swyddogion tan yn credu ei fod wedi’i gynnau’n fwriadol.

Mae dynes 37 oed o ardal Caerdydd wedi’i harestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol ac wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliadau barhau.

Mae adroddiadau am gar Volkswagen Golf du ar y safle rhwng 6.45pm a 7.30pm ac mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un welodd y cerbyd neu sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw ar 101 neu i alw Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.