Mae un o brif undebau amaethwyr Cymru wedi rhybuddio bod Tesco yn gyrru cynhyrchwyr bwyd y wlad allan o waith drwy alw arnyn nhw i gymryd tâl is am eu cynnyrch.
Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones, wedi dweud na ddylai Tesco fod yn galw ar gynhyrchwyr i dderbyn llai am eu cynnyrch fel rhan o ymgyrch yr archfarchnad i dorri prisau.
Gwnaed cyhoeddiad gan Tesco yr wythnos diwethaf yn dweud bod ymgyrch newydd y ‘Big Price Drop’ yn mynd i edrych ar dorri prisau rhai cynnyrch craidd fel llaeth a bara, ond hefyd yn newid eu polisi ar gynnigion arbennig a phwyntiau Clubcard.
Yn ôl Emyr Jones, mae gofyn i gynhyrchwyr ysgwyddo’r baich ariannol am benderfyniadau fel hyn yn annerbyniol.
“Mae prisiau cynhyrchu uchel eisoes yn cael effaith andwyol ar elw’r fferm,” meddai.
“Wrth i’r cynydd mewn prisiau cynhyrchu gael effaith andwyol ar elw’r fferm, mae’n rhaid i Tesco sylweddoli fod pasio’r toriadau yn ol i’r ffermwyr yn bolisi hurt o ddi-weledigaeth.
“Y cyfan y bydd hyn yn ei wneud yw gyrru pobol allan o fusnes, gyda’r effaith tymor hir o danseilio cynhyrchu bwyd ar adeg pan fod pob arbenigwr yn rhybuddio bod prinder bwyd ar y gorwel.”
Mae ffermwyr wedi rhybuddio Tesco nad yw hi’n iawn i gynhyrchwyr orfod rhannu’r “boen” yn sgil ymgyrch yr archfarchnad i ostwng prisiau.
Wrth ymateb i sylwadau Prif Weithredwr Tesco, Richard Brasher, dywedodd Unded Cenedlaethol y Ffermwyr, yr NFU, fod gorfodi cynhyrchwyr i ysgwyddo baich toriadau Tesco yn gofyn gormod ar adeg pan fod costau cynhyrchu eisoes yn gwasgu ar elw’r cynghyrchwyr.
Yn ôl Tesco, mae’r ymgyrch yn golygu £500 miliwn o fuddsoddiad gan y cwmni ei hun, ond mae rhai yn yr un diwydiant wedi amau hyn.
Yn ôl llefarydd ar ran Sainsbury’s, mae’r ymgyrch yn “gwbl nodweddiadol o Tesco, yn rhoi gydag un llaw ac yn cymryd yn ôl gyda’r llall. Bydd tynnu’r pwyntiau dwbl ar y Clubcard yn unig yn arbed £350 miliwn i Tesco.”
Dywedodd Richard Brasher y byddai peth trafod â chynhyrchwyr ynglŷn â gostyngiad mewn prisiau, ond y byddai’n disgwyl y byddai’r rhan fwyaf yn croesawu’r cyhoeddiad.
Ond yn ôl Thomas Hind, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol yr NFU, prif ofid yr undeb yw “bod archfarchnadoedd yn disgwyl i’w cynhyrchwyr gymryd llawer o’r boen” wrth iddyn nhw dorri prisiau ar gyfer eu cwsmeriaid.
“Mae hyn yn annerbyniol yn yr hinsawdd economaidd presennol, pan fod ffermwyr a chynhyrchwyr yn wynebu cynnydd aruthrol mewn costau.”
Mae Tesco wedi cael problem wrth blesio nifer o’i chynhyrchwyr ers tro, gyda 70 o ffermwyr moch yn picedu tu allan i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr archfarchnad ym mis Gorffennaf, gan alw am “bris teg” am eu cynnyrch.
Daeth dadl arall dros brisiau i’r amlwg yn Hydref 2010, pan benderfynodd Tesco atal gwerthu 12 math o fara Hovis, wedi i gynhyrchwr y bara, Premier Foods, ofyn iddyn nhw godi pris eu bara o ychydig geiniogau.
Daeth y cais yn sgil cynnydd rhyngwladol mewn pris gwenith, ond gwrthwynebwyd y cais gan Tesco, gan dorri eu harchebion bara Hovis i lawr i dim ond saith math.
Un o’r rhai sydd wedi cefnogi galwadau’r diwydiant yw llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mhrydain, Tim Farron.
Yn gynharach yn y mis, cyfaddefodd ei fod yn teimlo’n “anghyfforddus” fod cynhadledd ei blaid yn cael eu noddi gan archfarchnadoedd enfawr Asda a Tesco.
Mae Tim Farron wedi beirniadu’r modd y mae manwerthwyr wedi trin ffermwyr, wrth geisio gwasgu’r pris y maen nhw’n ei dderbyn am eu cynnyrch.