Mae’n rhaid i gefnogwyr Clwb Wrecsam gytuno’n derfynol i brynu’r clwb pêl droed erbyn heno, neu golli’r cyfle. Mae Is-gadeirydd Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr wedi dweud wrth Golwg360 heddiw eu bod yn gobeithio dod i gytundeb cyn diwedd y dydd.
“Mae nifer o faterion wedi codi o’r Due Dilligence. Ddydd Iau diwethaf, rydan ni wedi gyrru cwestiynau at y Bwrdd Pêl Droed. Rydan ni’n disgwyl i glirio’r materion hynny. Wedi hynny – rydan ni’n gobeithio y byddwn ni’n gallu cytuno ar ddêl,” meddai Peter Jones, is-gadeirydd Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr.
Daw hyn wrth i Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr gyfarfod ag aelodau o’r Bwrdd Cwpan Pêl Droed heddiw.
Fis Awst diwethaf, fe wnaeth Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam bleidleisio yn unfrydol o blaid prynu’r clwb. Roedd mwy na 400 o gefnogwyr yn bresennol mewn cyfarfod neithiwr er mwyn cytuno i gynlluniau’r bwrdd.
‘Teimlo’n gadarnhaol’
“Gan fynd a’r be sydd wedi’i ddweud yn barod, rydan ni’n teimlo’n gadarnhaol am ddêl yn cael ei gytuno,” meddai Peter Jones.
“Os bydd y cytundeb yn cael ei gymeradwyo, bydd rhaid iddo fynd drwy broses drosglwyddo lle bydd cyfreithwyr yn arwyddo’r cytundeb. Gobeithio bydd newyddion da,” meddai.
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod mewn trafodaethau gyda’r clwb ers tua pedwar mis bellach.
Mae aelodau’r ymddiriedolaeth a chefnogwyr clwb pêl-droed Wrecsam wedi eu rhybuddio y bydd rhaid gwneud penderfyniadau caled yn y dyfodol agos os yw’r clwb am oroesi.
Er eu bod yn amcangyfrif torfeydd o tua 3,000 ar gyfartaledd ar gyfer gemau cartref, maent yn dal i ragweld y bydd colledion o tua £500,000 y tymor yma.