Llanelli 2 – 0 Tref Port Talbot

Methodd Rhys Griffiths yn ei ymdrech i sgorio trydydd hat-trick mewn tair gêm, ond llwyddodd i sgorio un wrth i Lanelli guro Port Talbot nos Wener.

Y tîm cartref reolodd y gêm o’r munudau agoriadol mewn gwirionedd ac roeddent ar y blaen o fewn saith munud gyda’r chwaraewr canol cae, Chris Venables yn sgorio.

Gwelodd y ddau dîm gyfleoedd ar ôl hynny yn yr hanner cyntaf, ac fe darodd cic rydd Venables yn erbyn y postyn yn fuan yn yr ail hanner.

Seliwyd y fuddugoliaeth wedi 72 munud wrth i Lee Surman ddarganfod Rhys Griffiths gyda phas hir, a chadwodd yntau ei ben i rwydo o ymyl y cwrt yn erbyn ei gyn glwb.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Llanelli’n aros yn drydydd yn y gynghrair tra bod Port Talbot yn colli rhywfaint o dir ar y chwech uchaf.


Dinas Bangor 4 – 0 Y Drenewydd

Mae’r pencampwyr presennol, Bangor, wedi codi i’r pedwerydd safle wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Y Drenewydd ar Ffordd Ffarar.

Roedd y gêm drosodd erbyn hanner amser i bob pwrpas.

Sgoriodd Mark Smyth i Fangor wedi dim ond dwy funud o’r gêm, cyn i Chris Jones ychwanegu ail ugain munud yn ddiweddarach.

Erbyn yr hanner awr roedd y tîm cartref ymhellach ar y blaen diolch i Alan Bull, a sgoriodd yntau ei ail a phedwaredd Bangor gyda chic rydd cwta funud wedi’r hanner.

Mae’r golled drom yn golygu fod Y Drenewydd wedi ildio 17 gôl yn eu tair gêm ddiwethaf, ac yn aros ar waelod y tabl.


Lido Afan 1 – 0 Tref Caerfyrddin

Yn cadw cwmni i’r Drenewydd wrth droed y tabl mae Caerfyrddin a gollodd eu seithfed gêm mewn wyth nos Wener.

Roedd rheolwr yr ymwelwyd, Tomi Morgan yn gandryll â phenderfyniad y dyfarnwr i ganiatáu gôl Liam McCreesh wedi 15 munud wedi trosedd ar olwr Caerfyrddin.

“Roedd pawb ar y maes heblaw’r dyfarnwr yn meddwl bod trosedd ar ein golwr” meddai Morgan.

“Doedd hyd yn oed chwaraewyr Lido Afan ddim yn gallu credu’r peth.”

“Fe siaradais â’r dyfarnwr yn ystod hanner amser ac fe ddywedodd nad oedd y golwr â’r bêl dan ei reolaeth. Ry’n ni wedi colli oherwydd canlyniad gan y swyddog ac mae hynny’n anodd ei dderbyn.”


Castell Nedd 4 – 0 Y Bala

Wedi dechrau gwych i’r tymor mae ail golled Y Bala o’r bron yn golygu eu bod wedi llithro i’r pumed safle yn y tabl.

Lee Trundle oedd seren y gêm wrth iddo reoli popeth ar y Gnoll.

Roedd y tîm cartref yn arwain o 2-0 wedi dim ond 12 munud – Luke Bowen yn sgorio gyntaf wedi chwe munud cyn i Craig Hughes rwydo’r ail wedi pas wych Trundle.

Bu’n rhaid i gefnogwyr yr Eryrod aros tan yr ail hanner cyn gweld rhagor o goliau. Trundle greoedd yr ail gyda rhediad gwych cyn i Bowen rwydo o 15 llath toc wedi’r awr.

Yna bum munud yn ddiweddarach gwelwyd gôl unigol wych gan Trundle wrth iddo orffen rhediad arbennig gydag ergyd troed dde nerthol i gefn y rhwyd.

Mae’r canlyniad yn codi Castell Nedd i’r ail safle yn y gynghrair tra bod Colin Caton yn ceisio dyfalu lle’r aeth pethau o chwith i’r Bala dros y ddau benwythnos diwethaf.


Tref Aberystwyth 1 – 3 Tref Prestatyn

Un arall sy’n ceisio dyfalu lle mae pethau’n mynd o chwith i’w dîm yw rheolwr Aberystwyth, Alan Morgan.

Yn ogystal â cholli gêm gartref arall, mae problemau disgyblaeth Aber yn dal i bentyrru wrth i Wyn Thomas gael ei yrru o’r maes – y chweched chwaraewr Aberystwyth i weld coch eleni.

Chwaraewr-reolwr Prestatyn, Neil Gibson, roddodd y fantais i’r ymwelwyr wedi 23 munud gan orffen rhediad da o ganol y cae gyda gôl.

Gwelodd Wyn Thomas ei ail garden felen o’r gêm wedi 59 munud, ond yn rhyfeddol roedd  y tîm cartref yn gyfartal funud yn ddiweddarach diolch i Lewis Codling.

Barodd yr adfywiad ddim yn hir ac o fewn munud roedd Prestatyn yn ôl ar y blaen wrth i Michael Parker rwydo.

Seliwyd y fuddugoliaeth gan Steve Rogers ac mae Prestatyn wedi cryfhau eu hachos i orffen yn y chwech uchaf gan agor bwlch o dri phwynt dros Bort Talbot yn y seithfed safle.


Airbus UK Brychdyn 1 – 2 Y Seintiau Newydd

Hon oedd gêm fyw Sgorio bnawn Sadwrn a’r Seintiau aeth â hi yn y funud olaf.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn o’r gêm fan hyn.