Wedi pum mlynedd heb ennill yng nghartref Airbus, llwyddodd Y Seintiau Newydd i gipio buddugoliaeth ddramatig yno o flaen camerâu byw Sgorio ddydd Sadwrn.
Fe ddechreuodd Y Seintiau Newydd yn gryf gyda Greg Draper yn taro’r postyn o fewn pum munud i ddechrau’r gêm.
Er hynny, ar y cyfan roedd yn berfformiad digon siomedig gan y ddau dîm yn yr hanner cyntaf, gyda’r naill na’r llall yn llwyddo i gymryd rheolaeth o’r gêm.
Roedd yn hanner digon blêr gyda llawer o basio esgeulus ac anniben a methiant o daro’r targed gan y un o’r ddau dîm.
Roedd Aeron Edwards a Craig Jones wedi dod yn agos i sgorio i’r Seintiau Newydd cyn i Ian Sheridan ddod yn agos i roi’r flaenoriaeth i Airbus wedi hanner awr, ond methodd â maeddu Paul Harrison yn y gôl i’r ymwelwyr.
Cynyddodd y Seintiau’r pwysau cyn yr egwyl, ac ar ôl ennill chwe chic cornel yn olynol bu bron iddynt fanteisio ond i Josh Griffiths benio ergyd Steve Evans yn glir ar y llinell.
Diweddglo cyffrous
Wedi’r egwyl, daeth y cyfle cyntaf i gyn chwaraewyr y Seintiau, Craig Whitfield wedi pas wân yn ôl i’w olwr gan Steve Evans.
Yn anffodus i’r tîm cartref methodd Whitfield â manteisio gyda’i ergyd yn methu’r targed.
Roedd rhaid disgwyl 78 munud tan y gôl gyntaf, a honno i’r Seintiau – yr eilydd Alex Darlington yn penio i’r rhwyd o gic gornel gan Christian Seargeant.
Ond, ni pharodd y dathliadau’r hir, ac o fewn dwy funud roedd Airbus yn gyfartal wrth i Ian Sheridan gan fod Mike Hayes â’i bas, ac yntau’n rhwydo’n gyfforddus.
Cynyddwyd y pwysau gan y Seintiau wrth i’r gêm dynnu i derfyn, ac yn y diwedd fe ildiodd dygnwch y tîm cartref a daeth y gôl fuddugol i’r eilydd Chris Seargeant wedi pedair munud o amser wedi’i ganiatáu am anafiadau.
Canlyniad enfawr
Mae’r canlyniad yn golygu bod Airbus yn dal i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor, ond gall y tîm deimlo’n gadarnhaol ynglŷn â sawl agwedd o’r gêm ddydd Sadwrn.
Mae’r fuddugoliaeth, yn golygu bod y Seintiau Newydd bwynt yn glir ar frig y gynghrair.
Roedd arwr Y Seintiau, Chris Seargeant yn falch o’r canlyniad wrth siarad â Sgorio wedi’r gêm.
“Mae’n ganlyniad enfawr i ni, yn enwedig ar ôl herio nifer o’r prif dimau dros yr wythnosau diwethaf a chipio buddugoliaethau.”
“Roedd yn bwysig dod yma ac ennill, ac mae’n bwysig i ni gadw pethau i fynd rŵan” ychwanegodd Seargeant.
Doedd y perfformiad ddim yn un da yn ôl safonau uchel Y Seintiau Newydd yn ôl eu rheolwr.
“Rhaid bod yn hapus â’r canlyniad, ond mae llawer o waith i’w wneud – doedd hwn ddim yn berfformiad da yn ôl ein safonau ni” meddai Mike Davies wedi’r gêm.
Bydd modd i chi wylio uchafbwyntiau’r gêm ar raglen Sgorio heno am 22:00.