Stamford Bridge
Gohebydd Clwb Abertawe, Guto Llewelyn sy’n trafod taith Abertawe i Stamford Bridge ddydd Sadwrn.
Y tro diwethaf i Abertawe deithio i Stamford Bridge, collodd yr Elyrch o 6-1. Dim ond pedair gwaith sgoriodd Chelsea ddydd Sadwrn ond roedd bron mor boenus â’r grasfa yn 1983. Collodd tîm Brendan Rodgers o bedair gôl i un yn erbyn deg dyn Chelsea.
Cerddais ar hyd strydoedd moethus Chelsea fel petawn wedi cyrraedd byd gwahanol. Ger Stadiwm Liberty rwyf yn gyfarwydd â gweld siop sglodion Rossi’s yn hytrach na bwyty crand Marco Pierre White oedd yn cefnu ar eisteddle Shed Chelsea. Gwaetha’r modd, nid dim ond oddi ar y cae y gwelwyd y fath wrthgyferbyniad.
Roedd tîm Chelsea’n cynnwys dau aelod o garfan Cwpan y Byd buddugol Sbaen, yn ogystal â rhai o sêr y byd pêl-droed. Roedd mainc y Gleision bron mor frawychus â’u tîm cyntaf; nid oedd David Luiz, Didier Drogba, Florent Malouda na chyn-chwaraewr Abertawe, Frank Lampard, yn ddigon da i ddechrau.
Chelsea’n rheoli o’r dechrau
Y tîm cartref gychwynnodd orau. Er na fedrai’r un tîm greu cyfle da ym munudau agoriadol yr ornest, Chelsea reolodd y meddiant orau, gan wthio Abertawe’n agosach at eu gôl-geidwad. Ceisiodd y cefnogwyr ysbrydoli’r tîm Cymreig trwy ganu’n llawer yn uwch na’r cefnogwyr cartref.
Serch holl ymdrechion y cefnogwyr, Chelsea sgoriodd gyntaf. Pasiodd Juan Mata’r bêl dros amddiffyn Abertawe cyn i Torres ei rheoli ac ergydio’n isel i gornel isaf y rhwyd. Gôl wych gan ymosodwr sydd wedi bod dan bwysau enfawr ers iddo ymuno â Chelsea o Lerpwl am £50 miliwn fis Ionawr diwethaf.
Nawr roedd yn rhaid i Abertawe ail-ganolbwyntio’n syth ond pwysleisiodd Chelsea pam eu bod mor llwyddiannus drwy fanteisio ar ddiffyg trefn Abertawe. Dihangodd cefnwr Lloegr, Ashley Cole, o dacl Angel Rangel, cyn pasio’r bêl at Ramires, a oedd wedi dod o hyd i wagle enfawr yng nghwrt cosbi’r Elyrch. Neil Taylor oedd yr unig amddiffynnwr o fewn ugain metr iddo pan ergydiodd Ramires yn gywir rhwng coesau’r golwr Michel Vorm.
2-0 i Chelsea a dechreuom ni boeni – nid dim ond am y canlyniad – ond am hyder y chwaraewyr.
Llygedyn o obaith
Dwy funud yn ddiweddarach neidiodd Torres i dacl ar Mark Gower â’i ddwy droed. Ymateb naturiol y dyfarnwr, Mike Dean, oedd dangos carden goch i’r Sbaenwr am ei dacl wyllt. Dyma oedd cyfle’r Elyrch, meddyliais. Gyda Torres yn yr ystafell newid am weddill y gêm byddai Abertawe’n gallu dechrau creu cyfleoedd.
Roedd yn rhaid i Brendan Rodgers eilyddio cyn dechrau’r ail hanner. Ni ymddangosodd Leon Britton – o bosib chwaraewr gorau Abertawe yn ystod yr hanner cyntaf – am yr ail hanner. Gobeithiodd Rodgers y buasai Wayne Routledge yn fwy bygythiol na’r corach cyfrwys.
Diolch i absenoldeb Torres, llwyddodd Abertawe i chwarae eu gêm basio naturiol, heb fod yn hynod effeithiol mewn gwirionedd. Tarodd Dyer y trawst i Abertawe cyn i Anelka wneud yr un peth ym mhen arall y cae.
Sgoriodd Chelsea y gôl dyngedfennol gyda chwarter awr yn weddill pan geisiodd Ashley Williams arafu’r chwarae, dim ond i Ramires gipio’r bêl o draed Williams a sgorio’n ddiffwdan.
Mae’r Elyrch yn enwog erbyn hyn am chwarae pêl-droed prydferth, soffistigedig, er gan amlaf y ciciau cosb a’r corneli oedd yn darparu’r cyfleoedd gorau i Abertawe. Ar ôl wythdeg pum munud neidiodd Ashley Williams fel eog i benio’r bêl heibio Petr Cech – gôl gyntaf yr Elyrch oddi cartref ym mhrif gynghrair Lloegr.
Ymdrechodd Abertawe i sgorio eto, ond gyda’r tîm yn gwthio’n galed, gwrthymosododd Chelsea yn gyflym. Unwaith yn rhagor, roedd prinder amddiffynnol a manteisiodd yr eilydd Didier Drogba i sgorio pedwaredd gôl Chelsea, ar ôl troi’n chwim.
Profiad da i’r cefnogwyr
Diwrnod cymysg oedd hi i ni fel cefnogwyr. Roedd y canlyniad yn siomedig er ei fod yn erbyn un o dimau gorau Ewrop. Ar y llaw arall cawsom weld stadiwm newydd a dangos ein doniau cerddorol drwy ganu o’r dechrau i’r diwedd yn Stamford Bridge. Croesawodd Frank Lampard ni i Lundain drwy gymeradwyo ei gyn-gefnogwyr (chwaraeodd Lampard i Abertawe pan oedd ar fenthyg o West Ham yn ystod y nawdegau) wrth gynhesu.
Rhaid i mi ganmol y clwb cartref hefyd am eu hymdrechion cyn ac yn ystod y gêm i wneud casgliad ar gyfer teuluoedd y pedwar glöwr fu farw yn nhrychineb Glofa’r Gleision yng nghwm Tawe wythnos diwethaf.
Nid oedd disgwyl i Abertawe ennill yn erbyn Chelsea, ac yn wir cawsom grasfa. Rhaid nawr canolbwyntio ar gêm llawer mwy pwysig yn erbyn Stoke yn Stadiwm y Liberty wythnos nesaf.