Mae’r cwmni ynni niwclear Horizon, sydd eisiau codi atomfa Wylfa Newydd ym Môn, wedi penodi ‘Cydlynydd Iaith Gymraeg a Diwylliant’.

Bydd Tesni Hughes yn ymuno â’r cwmni er mwyn helpu gyda nod Horizon o “ddiogelu a gwella’r iaith Gymraeg a’i diwylliant drwy brosiect Wylfa Newydd”.

“Mae Wylfa Newydd yn newyddion gwych i Ynys Môn, ac yn gyfle enfawr i ddod ag amrywiaeth eang o fanteision economaidd a chymdeithasol i gymunedau lleol,” meddai Tesni Hughes o Gaernarfon.

“Mae’n rôl gyffrous, ac yn un a fydd yn helpu i ddatblygu ein gwaith yn y gymuned.”

“Trochi’r gweithlu yn yr iaith”

Mae’r penodiad yn dod yn sgîl llawer o bryderon o gyfeiriad Cymdeithas yr Iaith a’r ymgyrchwyr gwrth-niwclear, PAWB, sydd yn honni bydd cael 6,000 o weithwyr ar yr ynys yn niweidiol i’r iaith Gymraeg.

Ond yn ôl Gwen Parry-Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Horizon, yr amcan yw i “drochi’r gweithlu yn y dyfodol yn yr iaith”.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wella’r Gymraeg a’i diwylliant drwy brosiect Wylfa Newydd,” meddai Gwen Parry-Jones.

“Ers nifer o flynyddoedd rydyn ni wedi chwarae rhan yn y gymuned leol – boed hynny drwy barhau i noddi’r Eisteddfod Genedlaethol neu drwy gefnogi grwpiau a mudiadau lleol.”

“Rhoi colur ar yr hagrwch”

Ond nid yw’r penodiad diweddaraf wedi argyhoeddi ymgyrchwyr gwrth-niwclear PAWB.

“Os ydach chi’n sôn am fyddin [o weithwyr] yn cyrraedd yn hytrach na phobol sy’n cyrraedd yn naturiol – tydach chi ddim wir mewn sefyllfa i ddweud eich bod yn medru lliniaru rhywbeth fel yna trwy benodi swyddog iaith,” meddai Robat Idris wrth golwg360.

Maen nhw’n rhoi “colur ar yr hagrwch”, yn ôl Robat Idris, sy’n dweud bod Wylfa Newydd yn “ llawer rhy fawr” i Fôn.

“Amser i bobol ddeffro”

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi lleisio pryder dro ar ôl tro ynglŷn ag effaith presenoldeb miloedd o weithwyr ar yr iaith ym Môn.

“Mae’n amser i bobl ddeffro a gweld mor andwyol fydd y datblygiad hwn i’r iaith Gymraeg ar Ynys Môn a Gwynedd,” meddai llefarydd Cymdeithas yr Iaith.

“Mae cyfran sylweddol iawn o’r swyddi sy’n gysylltiedig gydag unrhyw orsaf niwclear newydd ar yr Ynys yn mynd i fynd i bobol o du allan i ogledd Cymru.”

Cyngor Gwynedd yn pryderu

Bydd effaith bosib Wylfa Newydd ar yr iaith Gymraeg yn cael ei drafod gan Gyngor Gwynedd dydd Mawrth nesaf.

Er nad yw’r datblygiad o fewn ffiniau Cyngor Gwynedd, maen nhw yn pryderu am “agweddau penodol o’r datblygiad”.

Mewn adroddiad i’w ystyried ddydd Mawrth mae Cyngor Gwynedd yn datgan:

“Nid ydym yn hyderus fod materion arwyddocaol sy’n ymwneud â llety, trafnidiaeth, sgiliau a chyflogaeth, yr iaith Gymraeg a gwasanaethau cyhoeddus wedi cael eu harchwilio a’u hystyried yn ddigonol.”