Mae dau Gymro sydd wedi serennu mewn ffilmiau Hollywood wedi cefnogi ymgyrch i achub sinema ym Mlaenau Ffestiniog.
Mae dyfodol canolfan gelfyddydol Cellb y dref yn y fantol wedi i dywydd garw achosi difrod yno’r llynedd, ac wedi i gais am daliad yswiriant gael ei wrthod.
Yn sgil hyn mi lansiodd grŵp o’r enw’r Gwallgofiaid ymgyrch er mwyn codi £10,000 i gadw’r safle ar agor, a bellach mae’r actorion Rhys Ifans a Michael Sheen yn eu corlan.
“Adnodd arbennig”
“Neges frys ydy hon i ofyn i bawb i gyfrannu mewn unrhyw ffordd y gallwch chi i achub sinema Cellb ym Mlaenau Ffestiniog sydd wedi’i rhedeg gan yr anhygoel Gwallgofiaid,” meddai Rhys Ifans mewn neges fideo.
“Gwnewch be fedrwch chi i achub yr adnodd arbennig yma, a gwneud yn siŵr y bydd o yna am ddegawdau i ddod.”
“Cyfrannwch”
“Dyma’r sinema gyntaf i agor ym Mlaenau Ffestiniog ers 40 blynedd, a bellach mae’n cael ei redeg gan fenter gymdeithasol,” meddai Michael Sheen ar gyfryngau cymdeithasol.
“Rhaid i ni ei helpu i aros ar agor! Cyfrannwch £6 – pris tocyn plentyn – os fedrwch, a beth am gadw’r ffilmiau i fynd am 40 blynedd arall.”
Cefndir
Hen orsaf heddlu yw Cellb – fe gafodd ei hagor ar ei newydd wedd yn 2016.
Daeth trafferthion i’r sinema’r llynedd, pan dorrodd pibell ddŵr y tu cefn i’r sgrin, gan achosi difrod a chostau ychwanegol.
Er i gwmni yswiriant ddweud y byddan nhw’n talu allan, yn dilyn asesiad llawn o’r difrod mi wnaethon nhw dro pedol.