Mae cerflunydd enwog wedi dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed yr wythnos hon.

Cafodd Denis Curry ei eni ar ddiwrnod ola’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae yn byw yn Llanycefn yn Sir Benfro ers 1976.

Mae llawer o’i gerfluniau yn portreadu adar yn hedfan ac mae yn adnabyddus am ei waith yn llunio ‘the Human Powered Wing’, ornithopter geometreg amrywiol.  Honnir mai dyma’r peiriant cyntaf o’r fath i gael ei yrru trwy symud yr adenydd yn unig.