Mae cwmni a oedd yn gyfrifol am lygru nant yn Sir Gaerfyrddin ddwy flynedd yn ôl wedi talu £150,000 i elusen amgylcheddol.
Ym mis Hydref 2016, fe lifodd 140,000 litr o gerosîn i Nant Pibwr yn Nant-y-caws ger Caerfyrddin.
Yn dilyn ymchwiliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru, fe gyfaddefodd Mainline Pipelines Limited – is-gwmni olew Valero – mai nhw oedd yn gyfrifol am yr arllwysiad.
Mae’r cwmni bellach wedi cynnig rhodd ariannol i sefydliad Afonydd Cymru, a fydd yn cael ei ddefnyddio i wella’r rhan o afon Tywi a gafodd ei heffeithio.
“Wrth ein bodd”
“Rydyn ni wrth ein bodd fod canlyniad yr achos hwn yn rhodd y gellir ei defnyddio i wella amgylchedd afon Tywi,” meddai Stephen Marsh-Smith o Afonydd Cymru.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio â phartneriaid i ddefnyddio’r arian hwn i wella’r amgylchedd yn nalgylch Tywi.”
Ym mis Mai y llynedd, fe gyfrannodd Mainline Piplines Limited £40,000 i Gyngor Cymuned Llangynnwr, sy’n cynrychioli ardal Nant-y-caws.
Mae’n debyg bod gwaith o lanhau wedi’r digwyddiad wedi costio £1.1m i’r cwmni.