Mae bachgen o’r Beddau ger Pontypridd wedi cael ei benodi’n Llywydd newydd ar Urdd Gobaith Cymru.
Bydd Ethan Williams hefyd yn treulio’r flwyddyn nesaf yn Gadeirydd Bwrdd Syr IfanC, sef fforwm ieuenctid cenedlaethol y mudiad.
Mae’r cyn-ddisgybl o Ysgol Garth Olwg ar hyn o bryd yn astudio am radd mewn Teledu a Darlledu ym Mhrifysgol Portsmouth, a’r llynedd fe dderbyniodd Wobr Arweinydd Ifanc yng Ngwobrau Arwain Cymru 2017 am ei waith gwirfoddol.
Wrth ymgymryd â’i swydd newydd, dywed Ethan Williams ei fod yn gobeithio “cynyddu’r ymwybyddiaeth” o’r Urdd yng Nghymru a thu hwnt.
“Adeiladu pontydd”
“Wedi ceisio esbonio i fy ffrindiau newydd yn y brifysgol y byddaf i fel Llywydd yn cynrychioli dros 53,000 o blant a phobol ifanc Cymru, mae wedi dod i’r amlwg nad yw llawer o bobol y tu allan i Gymru yn ymwybodol o’r Urdd,” meddai.
“Hoffwn i ddechrau’r broses o newid hyn, gan ddechrau drwy gynyddu ymwybyddiaeth o’r mudiad ymysg y Cymry di-Gymraeg, ac yna ehangu hyn i adeiladu pontydd y tu allan i Gymru.
“Gallwn wneud hyn yn rhannol drwy’r neges heddwch a theithiau rhyngwladol, ond hefyd drwy ddatblygu perthnasau gyda mudiadau o wledydd eraill.”