Mae actor byd enwog o Gaerdydd, sy’n byw a gweithio yn yr Unol Daleithiau, wedi dweud â thafod yn ei foch ei fod am “orfodi” ei fab i ddeall Cymraeg.
Daw sylwadau Matthew Rhys yng nghylchgrawn y Radio Times ar drothwy darlledu’r ddrama hanesyddol, Death and Nightingales ar BBC2 ddiwedd y mis.
Mae gan yr actor 44 oed blentyn dwyflwydd oed gyda’r actores Keri Russell, sy’n cyd-actio ag ef yn y gyfres deledu, The Americans.
Mae’r teulu bychan ar hyn o bryd yn byw yn Efrog Newydd, ond dywed y Cymro mai Cymraeg yw’r unig iaith rhyngddo ef â’i fab, Sam.
Siarad Cymraeg
“Rydw i’n siarad yn gyfan gwbwl ag e yn Gymraeg,” meddai Matthew Rhys. “Mae’n gallu ateb a deall ar hyn o bryd.
“Faint o’r iaith y bydd e’n ei deall neu’n ei chadw pan fydd yn mynd i’r ysgol, dw i ddim yn gwybod… ond dw i’n gobeithio parhau i siarad ag e yn Gymraeg ac yna fe fydd e’n deall am oes.
“Fe fydd yn cefnogi Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad bob blwyddyn,” meddai wedyn.
“Dw i’n siŵr y bydd e’n fy nghasáu i am yr holl Gymreictod sy’n mynd i gael ei orfodi arno, druan bach!”
Hiraeth am adref
Mae Matthew Rhys hefyd yn sôn am yr hiraeth sydd ganddo am Gymru, gan iddo adael ei gartref yng Nghaerdydd pan oedd yn 18 oed er mwyn mynd i astudio drama yn Llundain.
“Fe dorrais i fy nghalon wrth adael Caerdydd,” meddai. “Pe bai bod o dan y felan yn gamp Olympaidd, fe fyddai’r Cymry’n ennill y fedal aur.
“Mae un o’m ffrindiau yn dweud bod yna ddau fath o Gymro – un sy’n sefyll ar y cei yn dweud ffarwel i’r cwch, a’r un sydd ar y cwch yn dweud ffarwel i’r cei.
“Mae gan y Cymry ffordd dda o greu mytholeg allan o’r hyn ydi cartref, yn enwedig y rheiny sy’n gadael y wlad…
“I fi, mae Cymru bellach yn wlad o geffylau uncorn a derwyddon. Mewn ffordd, mae’n lle dw i’n gwybod na fydda’ i byth yn dychwelyd iddo.”