Mae’r grŵp 9Bach wedi hen arfer ysgrifennu caneuon sy’n adrodd hen storïau a chwedlau – ac mae’r stori y tu ôl i’r gân ‘Ifan’ yn mynd â nhw i Rwsia.
Fe ysgrifennodd y gantores, Lisa Jen, y geiriau ar gyfer yr albwm Anian, wedi iddi glywed am fachgen o Mosgow a dreuliodd ei blentyndod yn byw gyda haid o gŵn gwyllt.
Pan nad oedd ond pedair oed, fe gerddodd Ivan allan o’i gartref tlawd a di-gariad, a threulio dyddiau yn yr eira… nes iddo ddod ar draws y cŵn a chael ei wneud yn ben-blaidd gan yr haid.
Mae cân 9Bach yn cofnodi’r eiliad honno pan gafodd ei ddal gan yr awdurdodau flynyddoedd yn ddiweddarach – a’i gipio – gan wneud gweddill cŵn y pac yn wallgo’.
Dod o hyd i Ivan
Er i’w hanes gael ei gofnodi mewn sawl llyfr a ffilm, doedd neb i weld yn gwybod be’ ddigwyddodd i Ivan wedyn. Ond gyda thipyn o ymchwil, mae’r cynhyrchydd Guto Roberts wedi llwyddo i ddod o hyd iddo, a gwneud fideo o’r stori.
Cafodd y fideo i’r gan ei ffilmio gan Guto Roberts ac Andrey Todorov yn Rwsia a Chymru, a hynny fel llafur cariad yn hytrach na job o waith.
“Dw i wedi mopio fod Ivan yn fyw ac yn iach ac wedi dod ar draws y gân ac wedi licio hi,” meddai Lisa Jên wrth golwg360.
“Mi wnaeth Andrey chwara’ a chyfieithu’r gân i Ivan a dyna pryd gynigiodd Ivan i fod yn y fideo i ni! Mae’r peth yn anhygoel. Mi ddangosodd o i Andrey lle oedd o’n arfer cadw’n gynnes efo’r cŵn, a’r fflat lle oedd o’n arfer byw cyn iddo ddenig o’i gartref.
“Mae o wedi ei anrhydeddu bod ni wedi dallt ‘y teimlad’- mi oedd o’n chuffed. Mae bod mewn cysylltiad efo fo wedi chwalu fy mhen, a dweud y gwir.”
A chyfarfod…
“Y cam nesa ydi cyfarfod wyneb yn wyneb,” meddai Lisa Jên.
“Mae o isio dod i Gymru ers clywed y gân, ond dw i isio mynd i Fosgow… gawn ni ffraeo am hynny! Ond mae gen i dri ci, felly gobeithio y gwnaiff hynny setlo pethau.”
Mae fideo ‘IFAN: Pen Blaidd y Cŵn’ wedi’i ryddhau gan Real World Records.