Mae enillydd Cadair a Choron Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn dweud iddi gael “sioc ofnadwy” o glywed am ei llwyddiant.
Daeth cadarnhad o fuddugoliaethau Megan Elenid Lewis o glwb Trisant yn ystod yr eisteddfod yn Y Barri, Bro Morgannwg neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 17).
Wrth ddod i’r brig yn y ddwy gystadleuaeth, efelychodd hi ei champ ei hun yn yr eisteddfod sir bythefnos yn ôl.
“Roedd hi’n sioc ofnadwy cael clywed, sioc fawr a dweud y gwir,” meddai wrth golwg360.
“Do’n i ddim yn disgwyl y fath beth, ond roedd e’n brofiad fydd yn aros yn y cof am byth.
“Dw i’n mwynhau sgrifennu rhyddiaith, straeon byrion ac ati. Y tro yma, cystadlu yn y ddwy [wnes i], ond heb ddisgwyl y fath beth, a dweud y gwir!”
Y Goron
Y dasg yng nghystadleuaeth y Goron oedd cyfansoddi darn o ryddiaith ar y thema ‘Cwm’, a’r gwaith buddugol yn canolbwyntio ar ddychwelyd o’r ddinas i gefn gwlad Cymru.
“Beth oedd gen i oed efaill yn dychwelyd i fro mebyd ar ôl cyfnod yn byw yn y ddinas,” meddai. “Wrth fynd yn ei ôl i’r sioe amaethyddol leol, gweld hen wynebau ac yn fan’no, ambell i gyfrinach yn dod i’r fei, a dyna beth yw’r stori wedyn, sef mynd ar drywydd hynny.”
Darn a ddaeth “o’r dychymyg” oedd hwn, ond cafodd Megan ei dylanwadu gan ei magwraeth yng nghefn gwlad, rhywbeth mae’n dweud sy’n “ysbrydoliaeth fawr” iddi.
“Mae cymaint o bethau pwysig angen eu dweud yng nghefn gwlad. Mae cymaint o bynciau llosg yma, mae’n bwysig bo nhw’n cael eu lleisio.
“Mae’r stori’n sôn hefyd am y damweiniau sy’n digwydd yng nghefn gwlad ac ym myd amaeth, ac mae hynny’n bwnc llosg iawn. Mae’n bwysig tynnu sylw a mynd i’r afael â hynny hefyd.”
“Dwi’n mwynhau sgrifennu straeon byrion a rhyddiaith, ond mi ddoth syniad y gerdd yn sydyn i mi eleni, a bwrw ati wedyn, ond mi oedd hi’n sioc o ran hynny hefyd.”
Y Gadair – “geiriau’n bwysig”
A hithau’n gyfieithydd ac yn gyn-newyddiadurwraig, dywed Megan Lewis fod geiriau wedi bod yn bwysig iddi erioed.
Ac roedden nhw’n bwysig iddi wrth ddod i’r brig yng nghystadleuaeth y Gadair am gerdd ar y thema ‘Arfordir’.
“Mae wastad syniadau gyda fi. Galla i feddwl am syniadau o hyd, ond dw i’n mwynhau cael amser hamdden i gael bwrw ati.
“Geiriau yw ‘mhrif ddiddordeb i, y Gymraeg a’i phwysigrwydd.
“Mae’r gerdd yn mynd i’r afael â dyfodol y Gymraeg i raddau hefyd. Ond dw i wrth fy modd â geiriau.”
Dylanwad Caryl Lewis
Yn ei feirniadaeth yn yr Eisteddfod Sir, cyfeiriodd y beirniad ‘Rocet’ Arwel Jones at ddylanwad Caryl Lewis ar waith y llenor buddugol.
“Dw i wrth fy modd â gweithiau Caryl Lewis,” meddai Megan.
“Mae’n ddylanwad mawr, yn bendant. Mae hi’n sôn am bynciau a thraddodiadau cefn gwlad, a’r dafodiaith hefyd wrth gwrs.”
Yn ogystal â Caryl Lewis, mae Megan hefyd yn nodi bod ei hathrawon yn Ysgol Penweddig ac ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dylanwadu arni ar hyd y blynyddoedd.
“Mae pawb mor gefnogol lle dw i’n byw hefyd, ac mae’n fraint i gael byw a bod mewn ardal Gymreig yng nghefn gwlad.”