Mae arian gan ddau gwmni sy’n gysylltiedig â gorsaf ynni niwclear bosib Wylfa Newydd ym Môn, yn golygu y bydd llyfrgell mewn pentref cyfagos yn cael ei hachub a’i throi’n ganolfan gymunedol.
Bydd arian gan Horizon a Magnox yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu’r llyfrgell ac i wella’r cyfleusterau a’r adnoddau ynddi.
Yn ôl Horizon, sy’n darparu arian trwy ei Chynllun Buddsoddi Cymunedol, y nod yw darparu’r “nofelau Cymraeg a Saesneg diweddaraf”, yn ogystal â “chyfrifiaduron newydd” a help ar gyfer meithrin sgiliau Technoleg Gwybodaeth.
Bydd y llyfrgell hefyd yn derbyn cymorth gan Gyngor Cymuned Llanbadrig a Chyfeillion Llyfrgell Cemaes.
“Diolchgar”
Yn ôl Aled Morris-Jones, ysgrifennydd Cyfeillion Llyfrgell Cemaes a chynghorydd sir tros ward Twrcelyn, mae llyfrgelloedd yn darparu “gwasanaethau cymunedol hanfodol”.
“Pan gafodd y llyfrgell ei henwi ar y rhestr fer i’w chau, fe welsom ni ymdrech go-iawn gan bobol leol i’w chadw ar agor a sicrhau ei dyfodol,” meddai.
“Rydyn ni’n eithriadol o ddiolchgar bod Horizon, Magnox a Chyngor Cymuned Llanbadrig wedi gallu ein helpu i gadw’r drysau ar agor ar yr un pryd â gwella cyfleusterau a darparu rhagor o adnoddau ar gyfer y bobol mae’n eu gwasanaethu.”