Mae’r wasg wnaeth gyhoeddi nofel werthodd 1,200 copi a chael ei hailargraffu, yn siomedig na fydd yn cael ei hystyried ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn.
Nid yw Sgythia gan Gwynn ap Gwilym yn gymwys am fod yr awdur wedi marw, ac yn ôl rheolau’r gystadleuaeth ‘rhaid i’r awdur fod yn fyw ar 1 Rhagfyr 2018 – dyddiad cau cyflwyno llyfrau’.
“Dw i ddim yn meddwl bod angen y rheol o gwbl,” meddai Marred Glynn Jones, golygydd Gwasg y Bwthyn a gyhoeddodd y nofel ym mis Mawrth eleni.
“Teitl y gystadleuaeth ar hyn o bryd ydi ‘Llyfr y Flwyddyn’, felly fe ddylai bob llyfr sydd wedi cael ei gyhoeddi yn y flwyddyn honno gael ei ystyried.
“Dw i’n teimlo bod Sgythia yn nofel wych. Mi fuasai’n braf iawn i’r teulu petai hi’n cael ei hystyried… mae hi’n haeddu ei lle yn bendant.”
Bu farw Gwynn ap Gwilym ym mis Gorffennaf 2016 ac roedd eisoes wedi cyflwyno’r nofel i Wasg y Bwthyn, Caernarfon.
Cafodd Sgythia ei chyhoeddi ym mis Mawrth eleni ac erbyn mis Medi roedd y 1,200 o gopïau’r argraffiad cyntaf wedi cael eu gwerthu a’r wasg wedi argraffu 700 arall.
Nofel pum seren
Sgythia yw’r unig nofel i gael pum seren gan ddarllenwyr yng ngholofn ‘Tri ar y Tro’ cylchgrawn Golwg.
‘Mae’n nofel anhygoel afaelgar … Trwy gyfuno ffeithiau hanesyddol diymwad a dychymyg ysgolhaig o lenor greddfol fe luniwyd clasur o nofel,’ meddai Rheinallt Llwyd, un o dri darllenydd roddodd y nofel yn y glorian ar gyfer ‘Tri ar y Tro’.
Awgrym Marred Glynn Jones yw bod angen ail ystyried rheolau cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn. “Mae’n biti i deulu unrhyw awdur sydd wedi marw cyn i’r seremoni gael ei chynnal, bod y llyfr yna ddim yn cael ei ystyried.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llenyddiaeth Cymru: “Mae meini prawf Llyfr y Flwyddyn yn nodi fod rhaid i awdur fod yn fyw ar ddyddiad cau cyflwyno’r llyfr. Rydym yn edrych ar yr holl feini prawf cymhwysedd bob blwyddyn ac yn eu hystyried yng nghyd-destun ehangach y Wobr.
“Er mwyn sicrhau tegwch, ni fyddai’n briodol ystyried addasu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer llyfr penodol yn unig.”
Mwy am y gystadleuaeth yn rhifyn yr wythnos yma o gylchgrawn Golwg.