Mae gŵr a gwraig sydd wedi bod yn casglu arian ar gyfer Plant Mewn Angen yng ngorllewin Cymru ers canol yr 1980au, yn gofidio na fydd cymaint o arian o gefn gwlad yn cael ei roi i’r elusen wedi iddyn nhw ymddeol.
Mae’r Parchedig Goronwy a Bet Evans wedi bod yn gyfrifol am ganolfan gasglu yn Llanbedr Pont Steffan ers 35 o flynyddoedd.
Ond ar ôl eleni, mae’r ddau wedi penderfynu rhoi gorau i’r gwaith oherwydd “henaint”, yn ogystal â’r ffaith bod y dulliau o gasglu arian ar fin newid, gyda Phlant Mewn Angen yn gobeithio rhoi mwy o bwyslais yn y dyfodol ar wneud taliadau ar-lein a thrwy gyfrwng banciau a swyddfeydd post.
“Dw i’n siŵr y cawn nhw lai o arian yn y wlad,” meddai Goronwy Evans wrth golwg360.
“Roedden nhw [y bobol] yn lico rhoi i ni am ein bod ni’n lleol, a hefyd am ein bod ni’n trio gofalu bod yr arian yr o’n i’n ei gasglu yn dod yn ôl i’r cylch yr o’n ni’n ei gynrychioli.
“Mae hwnna, dw i’n credu, wedi bod yn bwysig iawn.”
Y newid mwyaf – ‘llai o ysgolion’
Mae’r pâr wedi casglu £1.1m ers ymgymryd â’r gwaith am y tro cyntaf ar Ddiwrnod Plant Mewn Angen yn 1983, lle roedd y cyfri i gyd yn cael ei wneud yn stafell fyw eu cartref yn Y Mans, Llanbedr Pont Steffan.
Ers hynny, maen nhw wedi gorfod symud i nifer o wahanol leoliadau o fewn y dref – yn ogystal â benthyg ambell garafán – cyn gwreiddio yng Nghapel Methodistaidd St Thomas yn y blynyddoedd diwethaf.
Y newid mwyaf y mae’r ddau wedi’u gweld dros y 35 mlynedd wrth gasglu arian o ardaloedd yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, yw’r nifer o ysgolion bach sydd wedi cau.
Roedd mwy na 80 o ysgolion ddechrau’r 1980au, meddai’r ddau, ond mae’r ffigwr bellach wedi haneri i tua deugain.
“Mae cymaint llai o ysgolion ar gael nawr,” meddai Bet Evans. “Dyna’r unig newid – rydyn ni wedi cadw’r un dull ar wahân i hynny.”
Eleni, fe fydd yna fyddin fechan o wirfoddolwyr yn teithio i’r ysgolion lleol ar gyfer y casglu, cyn dychwelyd yr arian i Lanbed ar gyfer cyfri.
“Y ni dechreuodd y syniad o fynd o gwmpas ysgolion,” meddai Goronwy Evans wedyn. “Fe gymrodd cylchoedd eraill hwn ymlaen wedyn.
“Mae’r ysgol wastad yn ffordd dda o godi arian.”