Tri chais i Scott Williams
Cymru 81 Namibia 7

Fe lwyddodd Cymru i sgorio naw cais yn yr ail hanner a mwy na 40 pwynt yn chwarter ola’r gêm wrth sgubo Namibia o’r neilltu.

Roedd yna hatric o geisiau i’r canolwr ifanc, Scott Williams, a chais rhyngwladol cynta’ i’r mewnwr, Lloyd Williams, wrth i Namibia flino a chael eu chwalu ym mhob agwedd.

Fe ddaeth y pwynt bonws o fewn pedwar munud i’r ailddechrau wrth i Scott Williams gael ei ail ond, er i Nambia, gael cais ar ôl rhyng-gipiad, fe agorodd y llifddorau.

Fe ddaeth dau gais o fewn ychydig tros funud – George North yn mynd trwy daclau i groesi ac yna’n torri’n rhydd o’r ailddechrau i greu cais i Jonathan Davies.

Roedd yna ddau arall o fewn ychydig tros funud yn union ar y diwedd wrth i’r cefnwr Lee Byrne goroni gêm daclus gyda chais ac Alun Wynn Jones yn croesi ar ôl sgrymiau a hyrddiadau cry’ gan y blaenwyr.

Anaf i Jenkins

Un o’r ychydig bryderon i Gymru oedd anaf i’r prop Gethin Jenkins – roedd wedi cael cais ar ôl 50 munud – ond fe wnaeth Ryan Bevington yn dda ar ôl dod ymlaen ac roedd yna gap cynta’ o’r diwedd i’r bachwr, Ken Owens.

Y cysur i Namibia oedd eu bod nhw wedi cael mwy o diriogaeth na Chymru ond, erbyn y diwedd, gyda dim ond pedwar diwrnod ers eu gêm ddiwetha’, roedd yr amaturiaid wedi blino’n lân.

Os bydd Cymru’n curo Fiji gyda phwynt bonws yn y geam nesa’, fe fyddan nhw’n sicr o fynd trwodd i’r chwarteri.