Stephen Jones - record a'r pwyntiau cynta
Fe arafodd Cymru ar ôl dechrau ar dân a methu â sgorio yn ail chwarter y gêm.

Ar yr egwyl, roedden nhw’n parhau un cais yn brin o’r pwynt bonws a allai fod yn dyngedfennol yn y cyfri’ terfynol yn eu grŵp.

Wrth dorri record Cymru am nifer o gapiau, y maswr Stephen Jones oedd y cynta’ i sgorio gyda chic gosb ar ôl dau funud.

O fewn dim, roedd y chwaraewr mwya’ newydd, Scott Williams, wedi sgorio cais da ac fe ddilynodd dau arall, gan Aled Brew a Toby Felatau, i roi Cymru ar y blaen o 22-0 ar ôl 18 munud.

Ar ôl hynny, fe gollodd y tîm ei ffordd gyda Namibia yn llwyddo i’w rhwystro.