Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn galw ar Lywodraeth Cymru i oedi cyn cyflwyno’u newidiadau i system daliadau ffermwyr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y system bresennol o daliadau, sy’n talu ffermwyr yn dibynnu ar faint o dir sydd ganddyn nhw, yn dod i ben wedi Brexit.
Yn ei lle, maen nhw’n gobeithio cyflwyno system newydd, sy’n cynnwys grantiau ar gyfer busnesau a chronfa sy’n gwobrwyo ffermwyr am wella’r amgylchedd.
Ond yn dilyn cyfarfod llawn o’r cyngor ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 14), cytunodd cynghorwyr Sir Gaerfyrddin fod angen “asesiad manwl” o’r effeithiau posib y bydd y system newydd yn ei chael ar yr economi leol a chenedlaethol.
Maen nhw hefyd yn dweud bod angen gohirio unrhyw benderfyniad ar daliadau’r diwydiant amaeth tan ar ôl i gytundeb masnach gael ei gytuno rhwng Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.
“Effaith andwyol”
Yn ystod yr haf, cafodd ymgynghoriad o’r enw ‘Brexit a’n Tir’ ei gynnal gan Lywodraeth Cymru er mwyn derbyn barn ffermwyr ynghylch y newidiadau arfaethedig.
Ond er i 12,000 ymateb i’r ymgynghoriad, mae’r Cynghorydd Cefin Campbell, aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin tros Faterion Gwledig, yn teimlo bod y penderfyniad wedi’i wneud yn barod.
Dywed ei fod yn “gofidio’n fawr” y gall yr hyn sy’n cael ei gynnig gan yr Ysgrifennydd tros Faterion Amaeth, Lesley Griffiths, gael “effaith andwyol” ar y gymuned a’r economi wledig yn Sir Gaerfyrddin.
“Gallai stopio’r Taliadau Sylfaenol i ffermwyr dros nos gael yr un effaith ar ein cymunedau gwledig a gafodd cau’r pyllau glo ar ein cymunedau glofaol yn ystod cyfnod Margaret Thatcher,” meddai.